Pecyn adnoddau AdventureSmart.uk ar gyfer Busnesau

Rydym wedi dylunio ystod o negeseuon er mwyn eich helpu i gadw’ch cwsmeriaid yn ddiogel a chyfforddus yn yr awyr agored, fel eu bod yn dychwelyd i ddiddanu eu cyfeillion gyda’u hanesion difyr o’u hanturiaethau. Trwy weithio gyda chi rydym am hyrwyddo’r negeseuon hyn ymhell ac agos.

O’r dechrau, pan fydd pobl yn dechrau meddwl am ac yn ymchwilio i’w gweithgaredd, trwy’r broses archebu a thrwy’r amser yn ystod eu hymweliad rydym eisiau iddyn nhw ddod ar draws negeseuon Mentro’nGall. Mae yna wahanol ffurf ar y negeseuon, yn opsiynau ar gyfer negeseuon ‘bachog’, neu negeseuon ymddygiad manwl, nid yn unig er mwyn cadw’ch cwsmeriaid yn ddiogel ond hefyd fel eu bod yn cael y diwrnod gorau posib!

Rydym wedi creu’r adnodd yma er mwyn ei wneud yn gyfleus i chi hyrwyddo negeseuon Mentro’nGallUK i’ch cwsmeriaid. Rydym wedi darparu cyfres o adnoddau a syniadau yn barod i chi eu defnyddio, felly darllenwch ac ewch ati i annog pobl i fynd allan i fwynhau ein harfordir a’n cefn gwlad!

Defnyddio negeseuon Mentro’nGall yn eich deunyddiau

Ychydig o syniadau i’ch rhoi chi ar ben ffordd!

Adnoddau i chi eu defnyddio

Ychydig o ddeunyddiau i’ch helpu i ledaenu’r gair!

Adnoddau partneriaid

Mae gan ein partneriaid gyfoeth o brofiad ac adnoddau y gallwch chi eu defnyddio

Helpwch ni i ledaenu’r gair!

Rydym angen eich help i annog eich cwsmeriaid i fwynhau’r awyr agored yn ddiogel. Gyda’n gilydd gallwn hyrwydd negeseuon diogelwch eglur, fydd yn annog ac yn galluogi pobl i Fentra’nGall.

Cydnabyddiaethau ffotograffau: Ar lan y môr, Porth Neigwl, Arfordir y De, Pen Llŷn – Simon Panton, Arforgampau, The Range, Ynys Cybi, Ynys Môn – Nigel Shepherd, Dringo creigiau arfordirol, Easter Island Zawn, Gogarth, Ynys Môn – Andy Teasdale

Canllawiau Brand

Mae’r ddogfen PDF Canllawiau Brand Mentro’nGall yn cynnwys gwybodaeth ynghylch sut y dylid defnyddio’r logo ac yn cynnwys arlunwaieth vector parod i’w argraffu. Os ydych angen graffeg ar gyfer gwefannau yna defnyddiwch ein baneri gwe.

image_pdfimage_print