Meddwl am Offer

Nid oes rhaid i chi fod ȃ’r siaced drytaf a’r gorau ar y farchnad er mwyn mentro’n gall. Y gamp yw rhoi ychydig o ystyriaeth i’r amodau all fod o’ch blaen a phacio bag gyda digon er mwyn sichrau eich bod yn gallu ymdopi ȃ beth bynnag ddaw.

Offer priodol yn syniad rhagoroldyma ein cyngor i wneud y dewis cywir!

 

Gwybod ble rydych chi’n mynd
Cariwch fap/siart a chwmpawd gan wybod sut i’w defnyddio.

 Y dyddiau hyn mae mapiau papur yn cael eu hystyried yn ddiangen, ond maent yn ysgafn i’w cario ac nid ydynt yn rhedeg allan o fatri! Am ganllawiau syml ar sut i ddarllen map a defnyddio cwmpawd cymerwch olwg ar y canllaw i ddechreuwyr yn
getoutside.ordnancesurvey.co.uk.

Gwneud un siŵr bod gennych chi fatri yn eich ffôn…
ond peidiwch ȃ dibynnu arno i gyfathrebu a llywio eich llwybr!

Nid yw ffonau symudol yn gweithio os ydynt yn wlyb, a gall signal fod yn ofnadwy o wael mewn rhai ardaloedd. Ewch ȃ chas sy’n dal dŵr neu system lleoli byd eang sy’n dal dŵr, a phacio map a chwmpawd rhag ofn.

Cynnal eich lefelau egni
Cariwch fwyd a diod

Bwytwch yn dda cyn cychwyn a bwytewch fyrbrydau trwy gydol y diwrnod.

Os ydych am fynd allan ar eich beic
gall codwm ddifetha eich diwrnod, gall helmed dda a dillad amddiffynnol achub y dydd.

 

Cadw’n gynnes a sych
Gwisgwch esgidiau cerdded, cariwch haenau sy’n inswleiddio a chôt a throwsus sy’n dal dŵr

Nid oes rhaid i’ch siaced fod yn un drud ond mae angen iddo ddal dŵr. O ran esgidiau – does dim tebyg i bothell am ddifetha diwrnod da o gerdded, felly gwnewch yn siŵr bod eich esgidiau yn ffitio’n dda! Os ydych chi allan ar y dŵr yna bydd esgidiau cwch priodol yn eich galluogi i symud o gwmpas heb lithro.

Cariwch dortsh a chwiban
bydd yn eich achub os cewch eich dal yn y tywyllwch.

Yn ogystal ȃ’ch galluogi i weld y llwybr os byddwch allan wedi iddi dywyllu, gallwch hefyd ddefnyddio eich tortsh er mwyn galw am help: y signal rhyngwladol eich bod mewn perygl yw 6 fflach fer yn agos i’w gilydd, wedi eu hailadrodd wedi 1 munud o seibiant (gallwch hefyd wneud hyn trwy chwythu eich chwiban yn yr un modd).

Parchu’r dŵr

Os ydych am fynd allan ar y môr neu ar yr afon; gwisgwch ddyfais arnofio bersonol sy’n eich ffitio’n dda ac sydd mewn cyflwr da (siaced achub neu gymorth arnofio).

Adnabod eich cit a gofalu amdano
cariwch ddarnau sbȃr gan allu eu gosod.

Gall cofio cario batris sbȃr ar gyfer eich tortsh neu diwb sbȃr ar gyfer eich beic fod olygu eich bod yn gallu dod adref yn ddiogel yn hytrach na gorfod galw am help.

MENTRA’N GALL

Meddwl am Offer

Nid oes rhaid i chi fod ȃ’r siaced ddrytaf a’r gorau ar y farchnad er mwyn mentro’ngall. Y gamp yw rhoi ychydigo ystyriaeth i’r amodau all fodo’ch blaen a phacio bag gydadigon er mwyn sicrhau eichbod yn gallu ymdopi ȃ beth bynnag ddaw.

Gwylio'r Tywydd

Rydym yn enwog yn y DU am ein hobsesiwn gyda’r tywydd, ac felly mae’n eithafrhyfeddol nad ydi pobl gan amlaf yn talu digon o sylw isut y gall effeithio ar antur y diwrnod.
Waeth beth yw eichgweithgaredd gall bod ynbarod am y tywydd wneudcymaint o wahaniaeth i sutfyddwch chi’n teimlo ar ddiwedd y dydd.

Datblygu eich sgiliau

Beth bynnag fo gweithgareddy diwrnod, byddwch yn onest gyda’ch hunan ynghylch eichgwybodaeth, ffitrwydd a gallu chi eich hunan a’chcymdeithion.
Rydym i gyd ynhoffi meddwl ein bod yn fwyffit neu’n fwy medrus nag yr ydym, ond yn yr achos ymamae’n werth bod yn onest.

Gwybod sut a phryd i alw am gymorth

Gall damweiniau ddigwydd iunrhyw un waeth pa mor gall ydych, felly beth bynnag fo’chgweithgaredd, gwnewch ynsiŵr bod gennych ffordd o alw am gymorth os byddwchangen gwneud hynny.
image_pdfimage_print