1

Amcanion Mentro’n Gall

Ymestyniad yw Mentro’nGall UK o ymgyrch diogelwch Mentro’nGallCymru a lansiwyd yn 2018.

Y nod yw lleihau’r nifer o ddamweiniau y gellid eu hosgoi y mae’r timau achub a’r gwasanaethau brys yn delio ȃ hwy bob blwyddyn. Yr amcan yw sefydlu set gynhwysfawr o negeseuon diogelwch a chydweithio ȃ’r sector awyr agored er mwyn hyrwyddo’r rhain yn eang.

Datblygwyd y negeseuon hyn gan arbenigwyr o sefydliadau diogelwch a chwaraeon blaenllaw er mwyn darparu’r holl wybodaeth angenrheidiol er mwyn cael pobl i fynd allan, gyda’r hyder eu bod wedi paratoi ar gyfer diwrnod da.

Amcanion Mentro'n Gall

 

Hybu anturiaethau diogel

Mae anturiaethau’n hwyl a gyda chynllunio gofalus gallwn eu cadw felly. Nod Mentro’n Gall Cymru ydi rhannu’r syniad yma gydag ymwelwyr a’n cymunedau lleol ni.

Hybu mynediad at wybodaeth dda

Sicrhau bod ymwelwyr a chymunedau lleol yn cael gwybodaeth, fel manylion cywir am y tywydd, i’w cadw’n ddiogel.

Rhannu ein gwybodaeth am antur

Sicrhau bod ymwelwyr a chymunedau lleol yn gwybod sut i baratoi ar gyfer antur yn yr awyr agored ym mhob tywydd

Helpu busnesau twristiaeth

Rhannu gwybodaeth gyda busnesau twristiaeth i’w galluogi i rannu’r syniad o antur ddiogel yn effeithiol gyda’u hymwelwyr

Creu cynnwys difyr

Helpu busnesau i ysgogi newid ymddygiad positif tuag at hamdden awyr agored sy’n ddiogel a chynaliadwy.

Bod yn arloesol

Defnyddio amrywiaeth o ymyriadau arloesol i sicrhau bod negeseuon diogelwch yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd.