Mentro’n Gall: Wrth canwio
‘Fuo chi erioed yn morio…wel do mewn padell ffrio….’ Hwiangerdd Gymraeg
Rhai da yw geiriau’r gân, mae’n wir bod mynd allan ar y dŵr yn ffordd wych o dreulio diwrnod (ond does neb eisiau cael eu chwythu i’r Eil O Man!). Felly, cyn i chi gydio yn eich rhwyfau a lansio’ch hun ar lyn, afon neu’r môr, rydyn ni wedi llunio canllaw o’r hanfodion ar gyfer diwrnod allan yn padlo yn gyfforddus a diogel.
Mentra’n Gall: Cynlluniwch ar gyfer diwrnod gwych gyda’n canllaw offer / cit hanfodol ar gyfer diwrnod da yn padlo!
DILLAD
- Siaced achub neu gymorth hynofedd / arnofio (rhaid iddo fod yn ffitio’n dda ac wedi’i gynnal a’i gadw’n dda)
-
Siaced gwrth-wynt (gellir ei chadw yn y sach deithio bob amser hyd nes y bydd ei hangen, peidiwch â gadael cartref hebddi)
-
Haen inswleiddio (cnu tenau neu gillet yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn)
-
Haen sylfaen anadlu os ydych chi’n padlo yn yr haf (osgowch grysau-t cotwm)
-
Siwt wlyb neu siwt sych (yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn gall trowsus math ‘long johns’ neu siwt lawn fod yn wych)
-
Bag diogelwch / bag sych (gyda dull o ddiogelu eich llong / cwch)
-
Esgidiau (sandalau, treinyrs, esgidiau gwlyb unrhyw beth sy’n eich helpu i gerdded ar draws glannau garw, traethau)
-
Oriawr (neu unrhyw ddull dibynadwy o wybod faint o’r gloch ydi hi)
HANFODION SACH DDIOGELWCH (BAG SYCH)
-
Pecyn cymorth cyntaf
-
Ffôn symudol (wedi’i wefru’n llawn) a gwefrydd cludadwy mewn bag sych (mae bag rhewgell ziplock yn opsiwn rhad).
-
Chwiban argyfwng
-
Map a chwmpawd (hyd yn oed os ydych yn defnyddio GPS)
-
Tortsh neu fflachlamp pen
-
Eli haul
-
Sbectol haul
-
Dŵr potel (sicrhewch eich bod yn yfed digon o ddŵr bob amser)
-
Fflasg o ddiod boeth (yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn)
-
Byrbrydau egni uchel (i roi hwb o egni i chi pan fyddwch wedi blino)
-
Unrhyw feddyginiaeth angenrheidiol (a rhai sbâr)
-
Dillad cynnes sbâr
-
Bag goroesi (rhag ofn)
-
Manylion cyswllt mewn argyfwng
Cewch lawer mwy o awgrymiadau a gwybodaeth am ddiwrnod allan diogel a phleserus ar y dŵr, gan gynnwys canllawiau ar sut i Ddechrau Arni, yn gopaddling.info