RHAGOLYGON

Mae’r tywydd yn cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd. Wrth ystyried mentro i’r awyr agored, boed hynny pan fyddwch yn mynd am dro hefo’ch ci, dringo mynydd neu dreulio amser yn neu ar y dŵr, mae bod yn gyfarwydd â’r tywydd a deall sut y gall effeithio ar eich gweithgaredd yn allweddol, oherwydd gall wneud eich diwrnod da yn un gwell fyth.

Gwiriwch sut oedd y tywydd yn flaenorol yn lleoliad eich gweithgaredd arfaethedig.
Ar ôl nodi pryd a ble rydych chi’n bwriadu mynd a be’ rydych chi’n bwriadu ei wneud, mae’n werth gwirio’r amodau tywydd blaenorol fel bod gennych chi syniad o effeithiau’r tywydd ar eich amgylchedd arfaethedig: Ydi hi wedi bod yn bwrw glaw? A fu unrhyw stormydd? A fu unrhyw rybuddion llifogydd? Beth yw effeithiau unrhyw un o’r rhain ar eich gweithgaredd arfaethedig?

Gwiriwch y tywydd presennol a’r rhagolygon ar gyfer lleoliad ac ar gyfer y cyfnod tra pery eich gweithgaredd, gan gynnwys yr ardaloedd mynyddig a’r copaon yr ardaloedd arfordirol a’r môr.
Peidiwch â gwneud y camgymeriad o wirio’r rhagolygon ar gyfer eich man cychwyn ond nid ar gyfer copa’r mynydd yr hoffech ei ddringo, neu’r camgymeriad o wirio’r rhagolygon ar gyfer y bore ond nid y pnawn a pheidio â sylweddoli bod storm ar y gorwel. Rydym i gyd yn gwybod bod y tywydd yn newid yn gyflym yma yn y DU felly bydd cadw llygad barcud ar y tywydd presennol mor aml â phosibl yn golygu eich bod mor barod ag y gallwch fod o ran gwneud penderfyniadau addas a phriodol ynghylch eich cynllun arfaethedig. Mae’n iawn dewis llwybr mwy addas neu droi yn ôl.

Y pethau pwysicaf sy’n gysylltiedig â’r tywydd a allai effeithio ar eich gweithgaredd arfaethedig yw:

  • Cyflymder a chyfeiriad y gwynt – gall gwyntoedd cryfion wneud i amodau deimlo’n llawer oerach a gall leihau eich cynnydd mewn unrhyw amgylchedd, gan wneud llawer o weithgareddau’n fwy peryglus o lawer
  • Tymheredd – dylech wybod y tymheredd er mwyn eich helpu i ddewis y dillad mwyaf addas i’w gwisgo a pha eitemau i’w cario, rhag ofn. Diogelwch eich hun rhag yr haul os yw’n boeth; cofiwch gario llawer o haenau os yw’n oer.
  • Dyodiad (glaw, cenllysg, eira ac ati) – os y’i rhagwelir ai peidio, mae’n ddoeth cario dillad gwrth-ddŵr / diddos bob amser. Mae amodau’r amgylchedd hefyd yn cael eu heffeithio gan wlybaniaeth e.e. creigiau llithrig, llwybrau llawn dŵr, lefelau dŵr uwch nag arfer mewn afonydd a llynnoedd ac ati: bydd esgidiau cerdded hefo gafael da helpu yn ogystal â chadw eich traed yn sych ar y tir, efallai mai gohirio eich antur chwaraeon dŵr nes bod lefelau’r dŵr wedi gostwng fyddai orau.
  • Gwelededd – bydd cymylau isel a niwl yn sicr yn lleihau eich gallu i weld eich llwybr arfaethedig, ac os felly, beth am newid eich cynlluniau i gael golygfeydd gwell a’i gwneud yn haws i chdi ddod o hyd i lwybrau neu ohirio nes bod y gwelededd yn well.
  • Uchder ger ac uwchlaw’r môr – boed ar lefel y môr neu ar gopa mynydd, bydd y tywydd blaenorol a phresennol naill ai wedi cael neu’n cael effaith sylweddol; e.e. mae gwyntoedd cryf ar draws moroedd agored yn debygol o olygu bod y môr yn donnog – allan ar y môr ac ar hyd yr arfordir; am bob 200m o esgyniad yn y mynyddoedd, mae tymheredd yr aer yn gostwng 1-2oC felly efallai eich bod yn mwynhau diwrnod heulog, sych a di-wynt ar lefel y môr ond mae copaon y mynyddoedd yn debygol o fod yn wahanol iawn. Paratowch ar gyfer pob math o amgylchiadau.

 

 

image_pdfimage_print