GWYBOD SUT A PHRYD I ALW AM HELP

Gall damweiniau ddigwydd i unrhyw un waeth pa mor gall ydych, felly beth bynnag fo’ch gweithgaredd, gwnewch yn siŵr bod gennych ffordd o alw am gymorth os byddwch angen gwneud hynny.

Geneud yn siŵr bod gennych chi fatri yn eich ffôn… 
ond peidiwch ȃ dibynu arno i gyfathrebu neu lywio’ch llwybr.

Cofiwch y gall signal ffôn fod yn wael, felly cariwch dortsh a chwiban fel modd o dynnu sylw. Chwe fflach fer yn agos i’w gilydd, wedi eu hailadrodd wedi 1 munud o seibiant yw’r arwydd rhyngwladol o fod mewn trafferthion (gallwch hefyd wneud hyn trwy chwythu eich chwiban yn yr un modd).

Os ydych am fynd allan ar y gwch a bod gennych system leoli EPIRB a/neu system leoli personol PLB yna gwnewch yn siŵr eich bod yn ei gofrestru – gall olygu eich bod yn cael eich achub yn gynt.

 

 

Os oes gennych anhawster clywed neu leferydd, gallwch gysylltu gwasanaethau brys 999 trwy neges destun.

Byddwch ond yn gallu defnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych wedi cofrestru gyda’r gwasanaeth brys SMS yn gyntaf.

Cofrestrwch yn awr – peidiwch aros am argyfwng! Anfonwch neges destun gyda’r gair ‘register’ i 999 ac yna dilyn y cyfarwyddiadau

Mewn argyfwng cysylltwch ȃ’r gwasanaeth brys SMS trwy anfon neges testun i 999.

Dylai eich neges gynnwys:
1. Y gwasanaeth yr ydych ei angen

  • Mewndir: gofynnwch am yr heddlu ac yna Achub Mynydd
  • Dŵr mewndirol: gofyn am y Gwasanaeth Tȃn ac Achub
  • Môr ac arfordir: gofyn am Wylwyr y Glannau

2. Manylion y digwyddiad 

3. Eich lleoliad, byddwch mor fanwl ag y gallwch 

Os dewch ae draws rhywun mewn trafferth, galwch am help, peidiwch ȃ rhoi eich hunan mewn perygl

Mewndir: Mewn argyfwng galwch 999 – gofynwch am yr heddlu ac yna Achub Mynydd

Dŵr mewndirol: Mewn argyfwng galwch 999 – gofynwch am y Gwasanaeth Tȃn ac Achub

Môr ac arfordir: Mewn argyfwng galwch 999 – gofynwch am Wylwyr y Glannau.

Byddwch angen darparu’r manylion canlynol;

  • eich lleoliad (cyfeirnod grid os yn bosib)
  • enw, rhyw ac oed yr anefedig
  • natur yr anafiadau neu argyfwng
  • nifer o bobl yn y grŵp
  • eich rhif ffôn symudol.

MENTRA’N GALL

Meddwl am Offer

Nid oes rhaid i chi fod ȃ’r siaced ddrytaf a’r gorau ar y farchnad er mwyn mentro’ngall. Y gamp yw rhoi ychydigo ystyriaeth i’r amodau all fodo’ch blaen a phacio bag gydadigon er mwyn sicrhau eichbod yn gallu ymdopi ȃ beth bynnag ddaw.

Gwylio'r Tywydd

Rydym yn enwog yn y DU am ein hobsesiwn gyda’r tywydd, ac felly mae’n eithafrhyfeddol nad ydi pobl gan amlaf yn talu digon o sylw isut y gall effeithio ar antur y diwrnod.
Waeth beth yw eichgweithgaredd gall bod ynbarod am y tywydd wneudcymaint o wahaniaeth i sutfyddwch chi’n teimlo ar ddiwedd y dydd.

Datblygu eich sgiliau

Beth bynnag fo gweithgareddy diwrnod, byddwch yn onest gyda’ch hunan ynghylch eichgwybodaeth, ffitrwydd a gallu chi eich hunan a’chcymdeithion.
Rydym i gyd ynhoffi meddwl ein bod yn fwyffit neu’n fwy medrus nag yr ydym, ond yn yr achos ymamae’n werth bod yn onest.

Gwybod sut a phryd i alw am gymorth

Gall damweiniau ddigwydd iunrhyw un waeth pa mor gall ydych, felly beth bynnag fo’chgweithgaredd, gwnewch ynsiŵr bod gennych ffordd o alw am gymorth os byddwchangen gwneud hynny.
image_pdfimage_print