Llyfrgell negeseuon allweddol

Cynllunio am ddiwrnod gwych
  • Gwybod ble rydych chi’n mynd – Ewch â map/siart a chwmpawd gyda chi a rhaid i chi wybod sut i’w defnyddio
  • Cynnal eich lefelau egni -Cofiwch fynd â bwyd a diod gyda chi
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych chi fatri yn eich ffôn – ond peidiwch â dibynnu arno i gyfathrebu a llywio eich llwybr!
  • Cadwch mewn cysylltiad – gwnewch yn siŵr eich bod yn cario dull addas o ofyn am help os oes angen
  • Gwybod i ble rydych chi’n mynd – Dewiswch lwybr addas a rhoi digon o amser
  • Edrych ar ragolygon diweddaraf y tywydd cyn cychwyn – holwch am gyngor, heb fentro ar lwybr os nad yw’r amgylchiadau’n addas i’ch gallu chi a phawb sydd gyda chi
  • Cynllunio eich taith – rhaid edrych i weld a oes unrhyw beryglon neu risgiau o ran canfod llwybr i’w hosgoi
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych chi ddull o alw gwylwyr y glannau a’ch bod yn gallu dangos ble rydych chi os bydd swyddog achub eisiau dod o hyd i chi
  • Os oes ganddo gortyn diffodd, cofiwch ei ddefnyddio!
  • Edrychwch ar ragolygon diweddaraf y tywydd cyn mentro allan i’r môr neu ar afon
  • Rhaid monitro darllediadau gwybodaeth am ddiogelwch ar y môr gan wylwyr y glannau yn rheolaidd pan rydych chi ar y môr
  • Edrychwch ar amseroedd disgwyliedig y cerrynt a’r llanw ar gyfer eich trip a gwnewch yn siŵr eu bod yn cyd-fynd â’r hyn rydych chi’n bwriadu ei wneud
  • Cofiwch roi gwybod i rywun ar y lan beth yw eich cynllun a gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod beth i’w wneud os byddant yn bryderus am eich diogelwch
  • Gwnewch yn siŵr fod pawb sydd ar fwrdd y cwch, neu yn y grŵp, yn gwybod ble mae’r offer diogelwch yn cael ei gadw a sut i’w ddefnyddio
Bod yn ymwybodol o’ch cyfyngiadau
  • Byddwch yn onest am eich gwybodaeth, eich ffitrwydd a’ch gallu eich hun a gwybodaeth, ffitrwydd a gallu pawb sydd gyda chi
  • Cofiwch edrych i weld beth yw’r tywydd diweddaraf a’r amodau ar y tir cyn cychwyn arni – holwch am gyngor, heb fentro ar lwybr os nad yw’r amgylchiadau’n addas i’ch gallu chi a phawb sydd gyda chi
  • Os bydd y tywydd neu’r tir y tu hwnt i’ch gallu, neu eich offer, meddyliwch beth yw’r opsiynaumae’n iawn dewis llwybr mwy addas neu droi’n ôl
Gwybod sut a phryd i ofyn am help
  • Os byddwch yn dod o hyd i rywun mewn trybini, ffoniwch am help a pheidiwch â pheryglu eich bywyd eich hun
    Ar y tir: Mewn argyfwng, ffoniwch 999 – gofynnwch am yr heddlu ac wedyn y Gwasanaeth Achub Mynydd
    Dyfroedd mewndirol: Mewn argyfwng, ffoniwch 999 – gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ac Achub
    Y môr a’r arfordir: Mewn argyfwng, ffoniwch 999 – gofynnwch am Wylwyr y Glannau
  • Cofiwch fynd â chwiban – y signal argyfwng rhyngwladol yw chwibaniad byr chwe gwaith, y naill ar ôl y llall yn gyflym, ac ailadrodd hynny bob munud (mae posib fflachio fflachlamp fel hyn hefyd)
Peidio â gadael i gi eich arwain ar grwydr
  • Os bydd gwartheg yn rhedeg ar ôl eich ci, rhaid ei ollwng oddi ar ei dennyn
  • Os bydd eich ci mewn trybini, mewn dŵr neu fel arall, ffoniwch am help a pheidiwch â pheryglu eich bywyd eich hun
    Ar y tir: Mewn argyfwng, ffoniwch 999 – gofynnwch am yr heddlu ac wedyn y Gwasanaeth Achub Mynydd
    Dyfroedd mewndirol: Mewn argyfwng, ffoniwch 999 – gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ac Achub
    Y môr a’r arfordir: Mewn argyfwng, ffoniwch 999 – gofynnwch am Wylwyr y Glannau
  • Os bydd eich ci mewn trybini ar y môr, ffoniwch Wylwyr y Glannau – peidiwch â’i ddilyn i mewn i’r dŵr
Dilyn arweiniad arbenigwyr
  • Os byddwch yn gwneud rhywbeth newydd neu’n mynd i rywle newydd, beth am fynd gyda thywysydd/hyfforddwr cymwys neu gofrestru am rywfaint o hyfforddiant
  • Chwiliwch am lwybrau sydd wedi’u disgrifio a’u hyrwyddo’n dda, sy’n addas i’ch gallu I’w ddefnyddio gyda dolenni at wefannau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, llwybrau a ddisgrifir
Mae offer addas yn syniad da
  • Rhaid bod yn gyfarwydd â’r offer – ewch â darnau sbâr gyda chi a dysgu sut i’w gosod
  • Cofiwch roi eli haul ar eich croen a gwisgo het haul
  • Rhaid cario fflachlamp – gall eich achub os cewch eich dal yn y tywyllwch – mae fflachio fflachlamp chwe gwaith, y naill ar ôl y llall yn gyflym a byr, ac ailadrodd hynny bob munud, yn signal argyfwng rhyngwladol
  • Cofiwch fynd â chwiban – y signal argyfwng rhyngwladol yw chwibaniad byr chwe gwaith, y naill ar ôl y llall yn gyflym, ac ailadrodd hynny bob munud (mae posib fflachio fflachlamp fel hyn hefyd)
  • Rhaid cadw’n gynnes a sych; gwisgo esgidiau cerdded a chario haenau inswleiddio a dillad sy’n dal dŵr
  • Mae codwm yn gallu difetha eich diwrnod – mae helmed dda a dillad gwarchodol yn gallu gwneud eich diwrnod yn llwyddiant mawr
  • Gofalwch am eich cwch – rhaid dysgu sut i ddatrys problemau cyffredin a sut i wneud gwaith cynnal a chadw sylfaenol
  • Deall ffynonellau o wenwyn carbon monocsid a’r peryglon sy’n gysylltiedig â hynny. Get Wise, Get Alarmed, Get out
  • Gwisgo esgidiau priodol – drwy wisgo esgidiau priodol ar gyfer cwch byddwch yn gallu symud o gwmpas heb lithro
  • Cofrestru Trawsyrrydd Radio Dynodi Lleoliad Argyfwng a/neu Drawsyrrydd Lleoli Personol – gallai hynny gyflymu’r gwaith o’ch achub, ac achub eich bywyd hyd yn oed
  • Rhaid mynd i’r arfer o fachu ar fannau addas o amgylch y cwch yn ystod y nos, pan rydych eich hun ar y dec, neu pan fydd y tywydd yn stormus
Parchu’r Dŵr
  • Peidiwch â chael eich dal gan y llanwedrychwch ar amseroedd y llanw
  • Os yw hynny’n bosib, dylech ddewis traeth sydd â swyddog achub bywyd a nofio rhwng y baneri coch a melyn
  • Os nad oes swyddog achub bywyd ar y traeth, rhaid deall sut i adnabod ac osgoi cerrynt croes
  • Os cewch eich dal mewn cerrynt croes, peidiwch â cheisio nofio yn ei erbyn. Os yw hynny’n bosib, rhaid i chi sefyll a rhydio, nid nofio. Os nad yw sefyll yn bosib, nofiwch yn gyfochrog â’r lan, codi eich llaw a gweiddi am help
  • Pan fydd y môr yn arw, gwyliwch y tonnau o bellter parchus – gall 15cm o ddŵr eich bwrw oddi ar eich traed
  • Peidiwch â chymysgu dŵr ag alcohol
  • Peidiwch â nofio mewn cronfeydd dŵr
  • Peidiwch â neidio i mewn i byllau os nad ydych chi’n gwybod nad oes peryglon o dan y dŵr
  • Gwisgwch ddyfais arnofio bersonol addas sy’n ffitio’n dda ac mewn cyflwr da (siaced achub neu gymorth hynofian
  • Wrth nofio yn y gwyllt, gwisgwch gap hawdd ei weld o bell a defnyddio dyfais arnofio
Arnofio i Fyw
  •  Mae sioc dŵr oer yn diflannu mewn llai na 2 funud, felly ymlaciwch a nofio ar eich cefn nes gallu rheoli eich anadlu

Canllawiau Brand

Mae’r ddogfen PDF Canllawiau Brand Mentro’nGall yn cynnwys gwybodaeth ynghylch sut y dylid defnyddio’r logo ac yn cynnwys arlunwaieth vector parod i’w argraffu. Os ydych angen graffeg ar gyfer gwefannau yna defnyddiwch ein baneri gwe.

image_pdfimage_print