Mae pobl sy’n mwynhau’r arfordir a chefn gwlad ledled Cymru a Lloegr yn cael eu hannog i ‘fentro’n gall’ gyda lansiad ymgyrch diogelwch awyr agored newydd – Mentro’nGall UK.
Heddiw mewn derbyniad yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd, bydd y Dirprwy Weinidog ar gyfer Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas, yn dathlu ehangu menter Mentro’nGall, a ddechreuodd yng Nghymru gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, dros y ffin.
Gan adeiladu ar frand cyfarwydd Mentro’nGallCymru, mae brand trawiadol ar gyfer y DU wedi cael ei ddatblygu. Y nod yw lleihau nifer y digwyddiadau y gellir eu hosgoi y mae’r gwasanaethau achub a brys yn delio â hwy bob blwyddyn drwy ddatblygu a hybu cyfres gynhwysfawr o negeseuon diogelwch. Yr wythnos ddiwethaf, Ardal y Llynnoedd ynCumbria oedd y rhanbarth cyntaf yn Lloegr i ymuno â Chymru yn y dull arloesol hwn o gyfathrebu diogelwch i’r holl bobl sy’n dod i archwilio’r rhanbarth bob blwyddyn. Mae trafodaethau ar droed yn awr gyda rhanbarthau eraill ledled y DU.
Beth bynnag yw’r gweithgaredd, mae ‘mentro’n gall’ yn golygu ystyried rhai pethau syml i helpu i roi cychwyn gwych i’ch diwrnod ac i sicrhau eich bod yn dychwelyd yn ddiogel gan edrych ymlaen at eich antur nesaf. Mae arbenigwyr o sefydliadau diogelwch a chwaraeon blaenllaw wedi datblygu’r negeseuon hyn er mwyn darparu’r wybodaeth hanfodol sy’n ofynnol i bobl godi allan i’r awyr agored yn hyderus eu bod wedi paratoi ar gyfer diwrnod gwych.
Anogir pobl i ofyn tri chwestiwn cyn cychwyn ar eu siwrnai:
1. Oes gen i’r offer addas?
2. Ydw i’n gwybod sut bydd y tywydd?
3. Ydw i’n hyderus bod gen i’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y diwrnod?
Mae gwefan newydd, www.adventuresmart.uk yn darparu’r holl wybodaeth ofynnol i ateb
y cwestiynau yma, gan gynnwys gwybodaeth fanwl ar gyfer rhanbarthau Mentro’nGall. Bydd llawer o sefydliadau partner sy’n ymwneud â thwristiaeth a hamdden awyr agored yn ymuno i ledaenu neges Mentro’nGall ymhell ac agos.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog ar gyfer Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Rydw i’n hynod falch ein bod ni wedi gallu cefnogi’r catalydd ar gyfer y prosiect hwn. Rydyn ni i gyd eisiau i bobl fwynhau’r awyr agored yn ddiogel, a thrwy gydweithio mae’r prosiect yma wedi galluogi pobl i fentro’n gall a chael yr wybodaeth y mae arnyn nhw ei hangen i fod yn barod ac i fwynhau eu hamser yn yr awyr agored yn ddiogel.”
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion
•
Mae Mentro’nGall UK yn ehangu ymgyrch ddiogelwch Mentro’nGallCymru a lansiwyd yn 2018, gyda chyllid rhannol drwy Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth Llywodraeth Cymru a chyfraniadau ychwanegol gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Mynydda Prydain, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Cymru a Chymdeithas Chwaraeon Cymru.
Y nod yw lleihau nifer y digwyddiadau y gellir eu hosgoi y mae’r gwasanaethau achub a brys yn delio â hwy bob blwyddyn. Yr amcan yw sefydlu cyfres gynhwysfawr o negeseuon diogelwch a gweithio gyda’r sector awyr agored i hybu’r rhain ymhell ac agos.
Am ymholiadau prosiect cyffredinol cysylltwch â Paul Donovan, 07970 871711 escape.routes@btopenworld.com
Cefnogir Mentro’nGall Ardal y Llynnoedd Cumbria gan Gymdeithas Chwilio ac Achub Mynydd Ardal y Llynnoedd a Sefydliad JD.