Mentra’n Gall yn ystod pandemig Covid-19
Dilynwch ganllawiau’r llywodraeth
Mae’r canllawiau ar gyfer Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn wahanol.
Gwiriwch wefannau’r llywodraeth sy’n berthnasol i’r ardal yr ydych yn ymweld a chydymffurfiwch â hwy
Bod yn ymwybodol o’ch cyfyngiadau
Cadwch at weithgareddau a lleoliadau yr ydych yn gyfforddus â hwy
Cynlluniwch eich diwrnod
Gofynnwch 3 chwestiwn i’ch hunan cyn i chi gychwyn:
-
Ydw i’n gwybod sut fydd y tywydd?
-
Oes gen i’r offer cywir?
-
Ydw i’n hyderus fod gen i’r wybodaeth a’r sgilliau ar gyfer y diwrnod?
Mae’r gwasanaethau brys dan bwysau cynyddol ar hyn o bryd ac mae ymateb i argyfyngau yn peryglu’r timau.
Mae gan Mentro’n Gall yr wybodaeth yr ydych ei hangen i’ch helpu i gael hwyl ac aros yn ddiogel
Amddiffynnwch gymunedau lleol
Byddwch yn barod i ddod ar draws rhai meysydd parcio, toiledau, siopau ac amwynderau lleol eraill wedi cau.
Cynlluniwch eich taith yn dda a pharchwch drigolion lleol
Cadwch eich pellter
Os yw’n edrych yn brysur yna mae’n rhy brysur, byddwch yn barod i newid eich cynlluniau a dod o hyd i rywle gyda llai o bobl.
Cadwch 2m i ffwrdd o eraill drwy’r amser, diheintiwch eich dwylo yn rheolaidd ac osgowch gyffwrdd giatiau a chamfeydd ac ati.