CADW EICH CWSMERIAID YN DDIOGEL YN YR AWYR AGORED

Canllaw i fusnesau

Sôn am ddiogelwch…a Mentro’n Gall!

Gall Mentro’n Gall eich helpu i ennyn diddordeb eich cwsmeriaid gyda’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i fwynhau’r awyr agored yn ddiogel. Mae Mentro’n Gall yma i’ch helpu i gadw’ch cwsmeriaid yn ddiogel ac yn gyfforddus yn yr awyr agored, fel eu bod nhw’n dychwelyd i ddiddori eu ffrindiau gyda straeon difyr am eu hanturiaethau gwych.

  • Mae Mentro’n Gall yn ymgyrch sy’n cael ei chyflawni gan sefydliadau partner niferus i ddarparu’r holl wybodaeth hanfodol sydd ei hangen er mwyn i bobl fynd allan i’r awyr agored, yn hyderus eu bod wedi paratoi i gael diwrnod gwych.
  • Datblygir negeseuon Mentro’n Gall gan arbenigwyr o sefydliadau diogelwch a chwaraeon blaenllaw

Mae miloedd o bobl yn cychwyn ar antur yn yr awyr agored bob dydd. Mae rhai yn dewis chwaraeon egnïol fel dringo creigiau neu arfordira, mae eraill yn cymryd agwedd llai eithafol fel cerdded, beicio neu chwarae ar y traeth gyda’r teulu. Bydd y mwyafrif yn cael amser gwych ac yn mynd ag atgofion gwerthfawr adref gyda nhw; i rai bydd eu diwrnod yn cael ei ddifetha am eu bod wedi teimlo’n anghysurus, wedi dod yn anghyffyrddus o agos i beryglon neu ddamweiniau a bydd yn rhaid i rai gael cymorth gan y gwasanaethau achub a brys. Gellid bod wedi osgoi llawer o’r digwyddiadau hyn yn ddigon hawdd mewn gwirionedd; gydag ychydig o waith paratoi ymlaen llaw, gall pawb helpu i sicrhau bod eu hantur yn atgof gwerthfawr, nid yn hunllef.

Rydym wedi creu’r pecyn cymorth hwn er mwyn ei gwneud yn hawdd i chi helpu i hyrwyddo’r negeseuon Mentro’n Gall i’ch cwsmeriaid. Rydym wedi darparu cyfres o adnoddau a syniadau sy’n barod i chi eu defnyddio, felly darllenwch ymlaen, cydiwch yn yr awenau a gadewch i ni annog pobl i fynd allan i fwynhau ein harfordir a’n cefn gwlad!

Drwy weithio gydag Mentro’n Gall rydych yn cefnogi ein timau Achub Mynydd, trwy gydweithio, gallwn leihau nifer y digwyddiadau y gellir eu hosgoi y mae’r gwasanaethau achub a brys yn gorfod ymdrin â nhw bob blwyddyn.

MENTRO’N GALL

Gwnewch eich diwrnod da yn un gwell fyth

Mae Mentro’n Gall yn darparu naratif i arwain sgyrsiau am ddiogelwch.

Trwy hyrwyddo’r negeseuon Mentro’n Gall gallwch fod yn sicr eich bod yn darparu’r arferion da y cytunwyd arnynt, yn seiliedig ar y wyddor ymddygiad ddiweddaraf.

Gweithio gyda negeseuon Mentro’n Gall DU

Os yw’ch cwsmeriaid yn ymwybodol o bwysigrwydd paratoi ar gyfer eu hanturiaethau awyr agored cyn eu hymweliad, y mwyaf tebygol ydynt o gychwyn gyda’u hoffer a’r dillad priodol ac yn gwybod sut i aros yn ddiogel.

O’r cychwyn cyntaf, pan fydd pobl yn dechrau meddwl am eu gweithgaredd ac yn ymchwilio iddo, trwy gyfrwng eu proses archebu a dro ar ôl tro yn ystod eu hymweliad rydym am i bobl barhau i ddod ar draws negeseuon Mentro’n Gall.

Mae eich cysylltiadau chi â’ch cwsmeriaid yn chwarae rhan bwysig wrth gyfathrebu fel hyn.

Nid dychryn pobl ydi’r bwriad ac nid rhoi cyfarwyddiadau ychwaith, y nod ydi atgoffa pobl yn dyner bod yna bethau syml y gallant eu gwneud i sicrhau eu bod yn cael diwrnod mwy pleserus (a mwy diogel).

Y man cychwyn gorau ar gyfer cyfathrebu ynghylch diogelwch awyr agored yw’r 3 chwestiwn Mentro’n Gall;

Gofynnwch 3 chwestiwn i chi’ch hun cyn i chi gychwyn:

– Ydw i’n hyderus bod gen i’r WYBODAETH A’R SGILIAU ar gyfer y diwrnod?

– Ydw i’n gwybod sut fydd y TYWYDD?

– Ydi’r OFFER cywir gen’ i?

Mae’r cwestiynau hyn yn siŵr o fod yn ddefnyddiol ar gyfer y rhai mwyaf profiadol hyd yn oed. Mae Mentro’n Gall yn ‘siop un stop’ sy’n darparu atebion cynhwysfawr i’r cwestiynau hyn. Mae negeseuon Mentro’n Gall yn ymdrin ag ystod eang o weithgareddau awyr agored; dilynwch y dolenni isod i ddarganfod mwy:

Gwneud diwrnod da eich cwsmer yn un gwell fyth

Mae Mentro’n Gall yn golygu mwy na dim ond cadw’n ddiogel, mae’n golygu mwynhau diwrnod o gerdded heb oeri, gwlychu na theimlo’n ofnus, neu fynd allan ar y dŵr gan wybod bod gennych chi’r wybodaeth a’r sgiliau i gofleidio’r amodau. Trwy fod yn glyfar yn y modd yr ydych yn darparu gwybodaeth diogelwch gallwch gynyddu’r siawns y bydd eich cwsmeriaid yn cael ymweliad pleserus iawn ac yn mynd adref yn awyddus i ymweld eto. Nid yw’n golygu bod yn rhaid rhoi darlith iddyn nhw, na darparu rhestr o bethau i’w gwneud a pheidio â’u gwneud, yn syml, mae’n golygu rhoi rhai awgrymiadau ysgafn i annog pobl i ystyried eu diogelwch.

Gwnewch negeseuon diogelwch yn rhan o’ch dulliau cyfathrebu reolaidd â’ch gwesteion/cwsmeriaid

Pwyntiau cyffwrdd

Ble – Meddyliwch am eich pwyntiau cyffwrdd gyda’ch gwesteion a’r cyfleoedd maen nhw’n eu cynnig

  • Deunyddiau marchnata a hyrwyddo
  • Wrth gyrraedd – derbynfa a mannau cyhoeddus
  • Cyfryngau cymdeithasol, blogiau, flogiau, cylchlythyrau
  • Gwybodaeth yn yr ystafell
  • Ffurflenni archebu a chadarnhau taliad
  • Bwydlenni
  • Post cyn cyrraedd
  • Sgyrsiau gyda staff

Cyfleoedd

Sut a Phryd – Ystyriwch sut a phryd y gallech chi annog eich gwesteion i feddwl am ddiogelwch wrth gynllunio eu diwrnod.

Lletygarwch

  • ychwanegwch negeseuon Mentro’n Gall at eich neges yn cadarnhau eu harcheb / arhosiad a gyda’r wybodaeth sydd yr ystafell
  • arddangoswch bosteri neu dangoswch y fideos Mentro’n Gall yn y dderbynfa (eydd)
  • defnyddiwch wefan Mentro’n Gall fel ffynhonnell cynnwys ar gyfer eich cylchlythyrau, flogiau a blogiau
  • ar eich bwydlenni ychwanegwch ddolen at ragolygon y tywydd neu argraffwch a gosodwch y rhagolygon dyddiol ar eich byrddau brecwast; gallwch ddefnyddio’r cod QR Mentro’n Gall yn y modd hwn hefyd

Manwerthu

  • ychwanegwch daflen at eich bagiau
  • rhowch ddolen gwefan ar waelod eich derbynebau
  • arddangoswch god QR Mentro’n Gall yn eich man gwerthu

Gofynnwch 3 chwestiwn i chi’ch hun cyn i chi gychwyn:

– Ydw i’n hyderus bod gen i’r WYBODAETH A’R SGILIAU ar gyfer y diwrnod?

– Ydw i’n gwybod sut fydd y TYWYDD?

– Ydi’r OFFER cywir gen’ i?

Beth i’w ddweud!

Mae tri chwestiwn Mentro’n Gall yn fan cychwyn delfrydol, defnyddiwch y rhain i annog pobl i gynllunio i sicrhau eu bod yn aros yn ddiogel ac yn gyfforddus. Defnyddiwch wefan Mentro’n Gall i gael syniadau ynghylch sut i roi gwybodaeth fwy manwl am ddiogelwch. Mae croeso i chi godi cynnwys yn uniongyrchol o wefan Mentro’n Gall, cynlluniwyd y wefan i fod yn hawdd i’w defnyddio; y cyfan a ofynnwn ydi eich bod yn cydymffurfio â Chanllawiau Cyfathrebu a Brand Mentro’n Gall.

Fel arall, gallwch gysylltu â Mentro’n Gall; siop un stop ar gyfer yr atebion ar gyfer yr holl ymholiadau diogelwch awyr agored. Mae dolen y cod QR at wefan Mentro’n Gall yn ffordd hawdd ac effeithiol o gysylltu.

Eich Negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol

Ydych chi’n meddwl tybed beth ddylai pwnc y dydd fod ar gyfer eich negeseuon cyfryngau cymdeithasol?  Efallai y bydd ein negeseuon allweddol ni o gymorth i chi.

Er enghraifft, mae’r sgwrs yn tueddu i droi tuag at drafod y tywydd yn y DU o hyd! Os yw’r rhagolygon ar gyfer y penwythnos yn edrych yn wych a’ch bod yn cynnig bargen arbennig am benwythnos, yna efallai y byddwch chi’n trydar;

Eich Busnes

Wedi gweld y rhagolygon? Paciwch eich eli haul a’ch esgidiau cerdded ac anelwch am y mynyddoedd am y penwythnos! Cewch groeso cynnes a mwynhau cefn gwlad godidog gyda’n bargen munud olaf! #MentrwchYnGall

Eich Busnes

Awydd archwilio ein harfordir hyfryd o’r môr – yna dewch i fwynhau caiacio môr! Arhoswch gyda ni’r penwythnos hwn a gadewch i’r arbenigwyr @eichbusnes ddangos sut i fynd ati i #Fentro’nGall

Cynlluniwyd negeseuon Mentro’n Gall fel ei bod yn rhwydd i chi ddarparu cyngor diogelwch trwy eich negseuon cyfryngau cymdeithasol. Mae yna lawer o ffilmiau a phosteri Mentro’n Gall i chi eu lawrlwytho a’u rhannu, felly p’un a yw’ch sianel cyfryngau cymdeithasol o ddewis yn Trydar/Twitter, TikTok, Instagram, Facebook neu Snapchat, edrychwch a dechreuwch bostio!

HASHTAG! Peidiwch ag anghofio cynnwys #MentrwchYnGall

Eich Gwefan

Nid yw’n gyfrinach bod gwybodaeth am ddiogelwch yn aml yn tueddu i fod yn ddiflas ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn annhebygol o glicio ar dab gyda diogelwch yn y teitl, felly, mwy fyth o reswm i fod yn greadigol! Rydych chi’n adnabod eich cwsmeriaid yn well na neb a byddwch yn gallu dod o hyd i ffyrdd newydd o gynnwys negeseuon Mentro’n Gall i’ch naratif.

Trwy wreiddio cyngor yn eich cynnwys cyffredinol yn hytrach na chyflwyno negeseuon diogelwch ar eu pennau eu hunain, gallwch ddechrau annog pobl i ystyried beth sydd angen iddynt ei wneud i gael diwrnod gwych. Gallwch gymryd cynnwys yn uniongyrchol o wefan Mentro’n Gall a’i gynnwys yn eich gwefan chi, neu fewnosod rhai o’n fideos a’n graffeg; cymerwch olwg, lawrlwythwch ac mewnosodwch.

Beth am greu dolen at ein hawgrymiadau ynghylch offer sylfaenol a phethau ychwanegol dewisol i’ch cadw’n ddiogel ac yn gyfforddus ymhlith eich gwybodaeth ar ‘Pethau i’w gwneud yn yr ardal’.

Soniwch am y pethau pwysig

Gyda’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth gywir gallwch chi a’ch staff gynnal sgwrs bwysig i sicrhau bod eich gwesteion yn cael diwrnod allan gwych a diogel … efallai y byddwch yn achub bywyd rhywun hyd yn oed!

Mae Mentro’n Gall yn helpu eich staff i gynnwys rhywfaint o wybodaeth diogelwch sy’n ‘arferion da’ syml yn ystod eu sgyrsiau gyda gwesteion. Mae angen iddynt wybod beth yw’r wybodaeth gywir i’w rhoi a’r ffordd orau i’w ddweud. Gall Mentro’n Gall roi’r hyder i’ch staff ddweud “os ydych chi’n mynd i wneud hynny, mae angen i chi…” Dylai gael ei wneud mewn ffordd gadarnhaol, nid i achosi ofn.

Trafodwch Mentro’n Gall yn eich cyfarfodydd staff a rhowch amser iddynt ymgyfarwyddo â’r wefan a’r negeseuon, fel eu bod nhw’n hyderus eu bod yn rhoi cyngor da. Gofynnwch i’ch staff roi y 3 chwestiwn a ofynnwyd fwyaf iddynt yn ymwneud â diogelwch at ei gilydd yn ystod y mis hwnnw a thrafod beth fyddai atebion Mentro’n Gall. Mae’r cwestiynau’n debygol o amrywio o fis i fis, felly dros amser bydd eich staff yn dod yn hyddysg wrth ddarparu’r cyngor arbenigol sydd ei angen i helpu’ch gwesteion i gadw’n ddiogel.

Gall y sgwrs rydych chi a’ch staff yn ei chael gyda’ch gwesteion am eu cynlluniau ar gyfer y diwrnod fod yn ddylanwadol iawn, rydym wedi llunio rhai awgrymiadau gyda’r bwriad o siarad am ddiogelwch heb ddychryn pobl o ddifri na’u diflasu i farwolaeth ‘chwaith!

Defnyddiwch y 3 chwestiwn Mentro’n Gall bob amser wrth sgwrsio â chwsmeriaid am eu cynlluniau ar gyfer y diwrnod. Gofynnwch iddyn nhw:

A oes ganddynt y wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y gweithgareddau y maent yn eu cynllunio?
Os ydyn nhw’n bwriadu mwynhau amser ar ddŵr neu’n agos ato, ydyn nhw’n gwybod am sioc dŵr oer – gall hyd yn oed nofwyr cryf fyndi drafferthion. Os ydyn nhw’n anelu i ddringo copa ydyn nhw’n ddigon ffit, ydyn nhw’n gwybod sut i ddarllen map (ac ydyn nhw’n gwybod y dylen nhw gario un a gwybod sut i’w ddarllen?)

Ydyn nhw’n gwybod sut fydd y tywydd?
Bydd angen iddyn’ nhw wybod y rhagolygon ar gyfer yr holl amser maen nhw’n bwriadu bod allan a hefyd yn ymwybodol o ba mor wahanol y gall y tywydd fod ar y copaon o’i gymharu â’r maes parcio.

Oes ganddyn nhw’r offer cywir?
I’r rhai sy’n bwriadu padlfyrddio mae’n hanfodol bod ganddynt gymhorthydd hynofedd sy’n ffitio’n iawn yn ogystal â thennyn wedi’i gysylltu’n gywir. I’r rhai sy’n mynd i gerdded mae angen iddyn nhw gario haenau cynnes a dillad gwrth-ddŵr – mae ein tywydd yn y DU yn hynod gyfnewidiol.

Dylech annog cwsmeriaid i ymweld â www.adventuresmart.uk bob amser;
gwnewch yn siwr bod y Cod QR yn hawdd i gael ato, gallai fod ar eich hysbysfwrdd, neu ar eich bwydlenni … ?

Bydd y cyngor cywir yn amrywio yn ôl tymhorau, tywydd, lleoliad a gweithgaredd,
felly mae’r amser y mae eich staff yn ei dreulio yn ystyried y negeseuon sy’n berthnasol i’ch gwesteion wirioneddol yn werthfawr. Mae trafodaeth gyflym yn eich cyfarfodydd staff yn ffordd dda o atgoffa pobl am faterion.

Gwenewch yn siŵr eich bod chi a’ch staff yn gyfarwydd â ffynonellau gwybodaeth dibynadwy y gallwch chi ymddiried ynddynt ynghylch ble i fynd a beth i’w wneaud.  Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol bob amser yn ddewisiadau da (ac maent hefyd yn bartneriaith Mentro’n Gall!).

Gweithio gydag asedau Mentro’n Gall / ASUK

AdventureSmart.uk has all the safety information your customers might need in one place! You can link to the home page or to specific
topic pages. Whatever their chosen activity there are activity-specific messages and gear lists developed in partnership with the
leading safety and sporting organisations.

There are a number of ready-made AdventureSmart assets i.e. films, posters, key messages etc for you to use. They are designed to
make it easy for you to use in your digital content, socials and print.

Taflenni

Datblygwyd y rhain mewn partneriaeth ag arbenigwyr blaenllaw. Mae’r pynciau’n cynnwys cerdded bryniau a nofio mewn dŵr agored

Logos Mentro’n Gall

Ar gael mewn amrywiaeth o wahanol fformatau a lliwiau.
Yn ogystal â logos cyffredinol y DU, mae gan bob rhanbarth Mentro’n Gall ei logo ei hun

Ffilmiau

Ffilmiau yn seiliedig ar wybodaeth generig Mentro’n Gall a gwybodaeth sy’n benodol i weithgareddau fel beicio mynydd neu badlfyrddio.
Defnyddiwch y codau mewnosod i’w hychwanegu’n hawdd at eich cynnwys ar-lein neu eu lawrlwytho i’w chwarae ar eich sgriniau teledu mewn mannau cyhoeddus a/neu ystafelloedd

Codau QR

Mae’r codau hyn yn rhai y gellir eu lawrlwytho ac maen nhw’n ffordd hawdd o ddarparu dolen at Mentro’n Gall / AdventureSmart.UK

Posteri

Lawrlwythwch nhw, eu hargraffu a’u gosod mewn lleoedd amlwg i bawb eu gweld. Fel arall, gallwch eu cynnwys mewn cylchlythyrau neu eu rhannu trwy eich digwyddiadau cymdeithasol

Brandio

P’un a ydych yn defnyddio’r negeseuon, logos, ffilmiau, codau QR neu bosteri, yr oll a ofynnwn yw eich bod yn cydymffurfio â’r Canllawiau Cyfathrebu a Brand Mentro’n Gall. Mae brandio Mentro’n Gall wedi’i gynllunio i eistedd yn gyfforddus ochr yn ochr â’ch brand chi eich hun. Gallwch ymgorffori’r negeseuon yn eich cynnwys fel ei fod yn adlewyrchu eich tôn chi neu’n cyfeirio’n uniongyrchol at yr ymgyrch i wneud y gorau o’r brand cryf Mentro’n Gall i roi hyder i’ch cwsmeriaid bod y wybodaeth a ddarparwyd wedi’i datblygu gan yr arbenigwyr blaenllaw yn y maes diogelwch yn yr awyr agored yn y DU ac Iwerddon.

Delweddaeth

Mae’r dewis o ddelweddau a ddefnyddir i gefnogi negeseuon Mentro’n Gall yn ffactor pwysig wrth eu cyfathrebu’n effeithiol; os yw llun yn siarad mil o eiriau, yna mae llun da yn dweud cymaint mwy!

Mae angen i ddelweddau fod; – O ansawdd uchel – Yn bachu diddordeb – Yn Ddeinamig – Ni ddylai fod yn llawn ystrydebau

Rhaid i bob delwedd sy’n cynnwys pobl ddangos arferion diogelwch da yn unol â’r negeseuon allweddol, a’r offer/cit priodol ar gyfer y gweithgaredd/amodau a ddangosir.

Os yn bosibl defnyddiwch ddelweddau sy’n dangos pobl yn mwynhau eu gweithgareddau i helpu i gysylltu pobl â thirweddau.

Ceisiwch ddefnyddio delweddau gyda modelau sy’n cynrychioli’ch cwsmeriaid. Osgowch ddelweddau sy’n edrych fel ffotograffiaeth o’r llyfrgell sy’n edrych braidd yn ffug, anelwch at luniau o bobl a golygfeydd sy’n edrych yn naturiol.

Os ydych chi’n cael trafferth dod o hyd i’r delweddau cywir, yna rhowch floedd i ni, a dylem allu dod o hyd i rai i chi.

Ymuno ag ymgyrch Mentro’n Gall / AdventureSmart

Gallwch ddechrau defnyddio negeseuon ac adnoddau Mentro’n Gall yn syth bin, does dim byd i’ch atal rhag darllen y pecyn cymorth hwn a bwrw ati. Fodd bynnag, mae dros 100 o sefydliadau a busnesau wedi mynd un cam ymhellach ac wedi dod yn bartneriaid swyddogol Mentro’n Gall.

Fel partner fe gewch;

  • eich logo a dolen i’ch gwefan chi o www.adventuresmart.uk/partners/
  • gwahoddiad i ymuno â fforwm ar-lein Cartref Mentro’n Gall / AdventureSmart Basecamp lle mae ein partneriaid yn rhannu eu syniadau a’u newyddion
  •  y cyfle i gymryd rhan mewn prosiectau Mentro’n Gall ledled y DU ac Iwerddon
  • llinell gymorth at dîm Ymgyrch Mentro’n Gall sy’n hapus i gynnig cymorth a chyngor ar bopeth sy’n ymwneud â ‘ diogelwch awyr agored’.

Mae holl bartneriaid Mentro’n Gall yn llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MC) sy’n amlinellu gweledigaeth, cenhadaeth a nodau craidd yr ymgyrch.

Wrth lofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth mae ein partneriaid yn cytuno i weithio tuag at Amcanion Mentro’n Gall.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn bartner Mentro’n Gall cysylltwch â Paul Donovan (escape.routes@btinternet.com)

Ymuno ag ymgyrch Mentro’n Gall / AdventureSmart

Bob blwyddyn mae ein gwasanaethau brys gwirfoddol (Achub Mynydd a’r RNLI) yn ymateb i lawer o ddigwyddiadau y gellid bod wedi’u hosgoi pe bai’r bobl dan sylw wedi treulio ychydig o amser ac ymdrech yn cynllunio eu diwrnod. Yn syml, nid oedd llawer o’r bobl a achubwyd yn ymwybodol o’r risgiau yr oeddent yn eu cymryd ac felly nid oeddent yn gallu cymryd y camau gweithredu er mwyn aros yn ddiogel.

Mae timau achub yn aml yn achub yn ystod yr amodau mwyaf heriol gan roi eu timau mewn perygl. Drwy rannu’r negeseuon Mentro’n Gall mae gennych chi’r potensial i leihau digwyddiadau a thrwy hynny o bosibl achub bywydau’r bobl sy’n cael eu hachub a’r achubwyr.

Felly, hoffem ddiolch yn fawr i bawb sy’n annog pobl i #Fentro’nGall!

ASTUDIAETHAU ACHOS

Parkdean Resorts

Hooked On Granite Ltd t/a Joe Browns and The Climbers Shop

Gyda hanes cyfunol o dros 120 o flynyddoedd, mae ein siopau dringo a thechnegol offer awyr agored sefydledig yn aros-fannau allweddol ar gyfer ymwelwyr ag Ambleside, Llanberis a Chapel Curig.

Yn ystod y pandemig covid, gwelsom fewnlifiad mawr o gwsmeriaid newydd yn defnyddio’r awyr agored am y tro cyntaf, ac roedd llwybr eu taith tuag at eu hanturiaethau awyr agored yn cael eu llywio gan y cyfryngau cymdeithasol yn hytrach na’r llwybr ysgol, prifysgol neu glwb mwy traddodiadol. Newidiodd y cwestiynau yr oedd pobl yn eu gofyn i ni, fel y gwnaeth agweddau wrth dderbyn neu wrthod ein cyngor, er enghraifft; pan dynnwyd sylw at y rhagolygon tywydd mynyddig sy’n cael eu postio’n ddyddiol yn ein siopau, roedd hyn yn cael ei gyfarch â syndod ac weithiau anghrediniaeth y gallai’r tywydd fod yn wahanol ar ben y bryniau o’i gymharu â’r dyffrynnoedd.

Trwy gyfrwng ein perthynas sefydledig gyda’n Timau Achub Mynydd lleol, ac yn wir, ein haelodau staff ni ein hunain sy’n wirfoddolwyr ar y Timau Achub Mynydd, roedd yn amlwg bod nifer y galwadau allan yn cynyddu’n gyflym, felly fe wnaethom ofyn y cwestiwn i ni ein hunain – beth allwn ni ei wneud i helpu? Daeth ein hateb ar ffurf cerdyn busnes dwbl bach yn gofyn y 3 chwestiwn allweddol Mentro’n Gall, darparu rhestr offer / cit sylfaenol a chynnig cyfeiriadau gwefannau ar gyfer Gwasanaeth Gwybodaeth Tywydd ar y Mynydd, y Côd Cefn Gwlad a’r chwaer wefan i’n siop ar-lein; Academi Awyr Agored Joe Brown, gan gynnig cyfoeth o gyngor am ddim ar-lein. Yn anad dim, maent wedi’u cynllunio i annog ein cwsmeriaid i gadw’n ddiogel a chael hwyl.

Wedi’u hargraffu ar bapur wedi’i ailgylchu gydag inciau bioddiraddadwy, maent yn cynnig ffordd ecogyfeillgar o annog pobl i aros a meddwl am funud bach a meddwl cyn mynd allan i’r hyn a all fod yn amgylchedd anodd a heriol. Mae’r amgylchedd awyr agored yn gwneud lles i bob un ohonom mewn cymaint o ffyrdd ond mae angen parchu’r union natur hwnnw.

Mae’r cardiau ar gael wrth bob pwynt talu ac rydym wedi eu rhoi i ddarparwyr llety a chaffis lleol i’w gadael ar fyrddau neu i’w hychwanegu at becynnau croeso. Y syniad yw eu bod yn dod yn bwynt trafodaeth anymwthiol dros frecwast neu goffi….. ac efallai yn hysbyseb ysgafn ar gyfer ein siopau arbenigol gwych sy’n cynnig ychydig mwy na dim ond offer penigamp.

image_pdfimage_print