Mentra’n Gall: Offer priodol yn syniad rhagorol!

Eisiau dinac oddi wrth eich desg ac anelu am y bryniau gyda’ch beic neu dim ond cynllunio taith gyda’r plant ar lwybrau coedwig leol? P’un a ydych yn newydd i feicio mynydd neu’n adnewyddu eich gwybodaeth, bydd ein canllawiau, a ddatblygwyd gyda Beicio Prydain, yn eich helpu i ddeall y pethau sylfaenol i gadw’n ddiogel.
Mae gennych y teimlad braf hwnnw sy’n dod wrth i chi ymarfer corff (a llond eich ysgyfaint o awyr iach) ac mae gennych olygfeydd syfrdanol o gefn gwlad Prydain. Mae’r haul yn tywynnu wrth i chi gychwyn ond dwy awr yn ddiweddarach rydych chi’n cael pynctsiar. Wrth lwc, rydych chi’n cario’r holl ddarnau sbâr sydd eu hangen arnoch yn eich sach deithio ac wrth i’r cymylau ymgasglu wrth i chi ailosod y tiwb mewnol, rydych chi’n estyn i mewn i’ch bag i afael yn eich dillad glaw wrth i’r nefoedd agor, sy’n eich galluogi i barhau i fod yn gynnes ac yn sych!

Mentro’n Gall: Cynlluniwch i gael diwrnod gwych allan ar eich beic mynydd gyda’n canllaw offer/cit hanfodol!

Dillad ac Esgidiau
  • Siaced gwrth-ddŵr (i’w chadw bob amser yn eich  sach deithio nes bod ei hangen, peidiwch â gadael cartref hebddi)

  • Haen ganol sy’n eich inswleiddio (cnu, siacedi cragen meddal, siaced blu, yn dibynnu ar y tywydd)

  • Haen sylfaen sy’n gallu anadlu (chwiliwch am ddeunyddiau technegol, dylech osgoi grysau-t cotwm)

  • Trowsus byr/teits beicio wedi’u padio neu siorts beic mynydd llac /trowsus byr gyda phadin cudd (trowsus sy’n sychu’n gyflym sy’n eich galluogi i symud yn rhwydd, dylech osgoi denim)

  • Trowsus gwrth-ddŵr i wisgo dros eich trowsus arall (opsiwn gwych mewn cawod)

  • Hetiau a menig

  • Esgidiau beicio (Angen bod yn gyfforddus ac yn ffitio’n dda. Dewiswch nhw yn seiliedig ar eich steil o reidio a’r tir yr hoffech ei archwilio)

  • Sanau anadlu (mae gwlân merino yn ddelfrydol, osgowch gotwm os yn bosibl)

  • Oriawr (neu unrhyw ddull dibynadwy arall o o ddweud faint o’r gloch ydi hi)

Hanfodion Beic

Beic – addas ar gyfer eich taith arfaethedig
Helmed – cadarnwedd gyda gorchudd ar gyfer cefn eich pen
Eitemau atgyweirio – tiwbiau mewnol sbâr, citiau pynctsiar, clymau cebl, tâp llwyd cryf, cyflenwad pŵer a rhywfaint o wybodaeth sylfaenol am atgyweirio mecanyddol
Pwmp ac ymchwyddwyr CO2
Cyfarpar / Offer – liferi, aml-offeryn gydag offeryn cadwyn, gefail
Goleuadau – golau blaen gwyn a golau cefn coch

Hanfodion sach deithio (bag sych)
  • Bag sych (i leinio’ch sach deithio a chadw’ch cit yn sych)

  • Pecyn cymorth cyntaf

  • Ffôn symudol wedi’i wefru mewn bag sych (Mae bag rhewgell ziplock llawn yn gweithio fel opsiwn rhad)

  • Chwiban argyfwng

  • Map a chwmpawd (hyd yn oed os ydych yn defnyddio GPS)

  • Golau/tortsh pen

  • Eli Haul

  • Sbectol haul (gall eira fod yn llachar, felly mae’n werth mynd â nhw yn y gaeaf hefyd)
  • Dŵr potel (yfwch ddigonedd o ddwr), diod egni uchel o bosibl

  • Fflasg o ddiod boeth 

  • Byrbrydau egni uchel (i roi hwb egni pan fyddwch wedi blino)

  • Unrhyw feddyginiaeth angenrheidiol (gyda rhai wrth gefn /sbâr)

  • Dillad cynnes sbâr

  • Bag goroesi (rhag ofn)

  • ID Personol a Manylion Cyswllt Mewn Argyfwng

  • Arian parod a chardiau

image_pdfimage_print