Gwylio’r Tywydd
Rydym yn enwog yn y DU am ein hobsesiwn gyda’r tywydd, ac felly mae’n eithaf rhyfeddol nad ydi pobl gan amlaf yn talu digon o sylw i sut y gall effeithio ar antur y diwrnod.
Waeth beth yw eich gweithgaredd gall bod yn barod am y tywydd wneud cymaint o wahaniaeth i sut fyddwch chi’n teimlo ar ddiwedd y dydd.
Cynlluniwch am ddiwrnod gwych! Dyma ein cyngor ynghylch sut i ymdrîn ȃ thywydd anwadal y DU:
![](https://www.adventuresmart.uk/wp-content/uploads/2019/02/cader_Idris_map-reading.jpg)
Byddwch yn hyblyg
Does dim cywilydd mewn newid eich cynlluniau.
Dewiswch lwybr gwahanol neu droi’n ôl os nad yw’r tywydd yn edrych yn ffafriol; os yw’r tywydd yn cau amdanoch yn annisgwyl neu os yw’r amodau yn anoddach na’r oeddech yn disgwyl.
Os ydych am fynd am y mynyddoedd ac yn sylweddoli bod cyrraedd y copa yn mynd i fod yn heriol yna newidiwch am daith ar lefel is y gallwch i gyd fwynhau a’i gyflawni’n hawdd. Ewch i wefannau Parciau Cenedlaethol neu Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol am wybodaeth ynghylch teithiau cerdded ar gyfer pob gallu.
![](https://www.adventuresmart.uk/wp-content/uploads/2019/03/when-seas-are-rough.jpg)
Fan fo’r môr yn arw…
gwyliwch y tonnau o bellter diogel.
Gall 15cm o ddŵr eich taro oddi ar eich traed.
![](https://www.adventuresmart.uk/wp-content/uploads/2019/02/just-incase-you-thought2.jpg)
Os bydd yr haul yn tywynnu ar eich antur…
peidiwch ag anghofio eich eli haul a’ch het haul!
Rhag ofn eich bod yn meddwl mai eich cadw’n sych a chynnes yn unig yw ein nod!
Pan fyddwch chi’n nofio mewn dŵr agored ar ddiwrnodau poeth, rhowch eli haul ar eich croen a pharatowch ddiod fel ei fod yn barod ar eich cyfer pan fyddwch chi’n gorffen nofio. Os ydych chi’n gwisgo siwt wlyb (wetsiwt) mae perygl o orboethi, felly eisteddwch yn y dŵr bas ac oeri cyn gadael y dŵr. Ar ddiwrnodau oer mi fyddwch angen rhywfaint o fwyd a diod gynnes.
![](https://www.adventuresmart.uk/wp-content/uploads/2019/02/check-out-the-weather-forecast2.jpg)
Gwiriwch y rhagolygon tywydd diweddaraf cyn cychwyn…
a byddwch yn ymwybodol o sut fydd yn effeithio eich cynlluniau.
Cofiwch edrych ar ragolygon y tywydd – mae’r Swyddfa Dywydd / Met Éireann yn lle da i ddechrau. Er enghraifft, os ydych yn anelu am y bryniau dylech ganfod pa mor oer a gwyntog fydd hi ar ben uchaf eich dringfa, a hefyd ar ba lefel fydd gwaelod y cymylau. Peidiwch â diystyru ffactorau fel oerfel gwynt. Mae gwirio rhagolygon y tywydd cyn cychwyn yr un mor bwysig os ydych chi’n mynd allan am ddiwrnod ar y dŵr, boed hynny ar y môr, ar lyn neu afon. Tra ar y môr, dylech fonitro’r darllediadau gwybodaeth diogelwch morol gan wylwyr y glannau yn rheolaidd er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf.
![](https://www.adventuresmart.uk/wp-content/uploads/2019/03/check-tide-times.jpg)
Os ydych am fynd am yr arfordir…
nid y tywydd yn unig all eich dal allan, peidiwch ȃ chael eich dal gan y llanw.
gwiriwch amseroedd y llanw
MENTRA’N GALL
Meddwl am Offer
Nid oes rhaid i chi fod ȃ’r siaced ddrytaf a’r gorau ar y farchnad er mwyn mentro’ngall. Y gamp yw rhoi ychydigo ystyriaeth i’r amodau all fodo’ch blaen a phacio bag gydadigon er mwyn sicrhau eichbod yn gallu ymdopi ȃ beth bynnag ddaw.
Gwylio'r Tywydd
Waeth beth yw eichgweithgaredd gall bod ynbarod am y tywydd wneudcymaint o wahaniaeth i sutfyddwch chi’n teimlo ar ddiwedd y dydd.
Datblygu eich sgiliau
Beth bynnag fo gweithgareddy diwrnod, byddwch yn onest gyda’ch hunan ynghylch eichgwybodaeth, ffitrwydd a gallu chi eich hunan a’chcymdeithion.
Rydym i gyd ynhoffi meddwl ein bod yn fwyffit neu’n fwy medrus nag yr ydym, ond yn yr achos ymamae’n werth bod yn onest.