Mae ein harfordiroedd yn cynnig profiadau unigryw a chyffrous, boed hynny’n cerdded ar hyd llwybrau’r arfordir, mynd i byllau glan môr gyda’r plant, nofio mewn bae diarffordd, neu fynd ar y dŵr ar fwrdd padlo (SUP) neu gaiac. Fodd bynnag, mae ein harfordiroedd hefyd yn cyflwyno rhai heriau; mae gwyntoedd cryfion yn effeithio ar ymchwydd y môr ar hyd yr arfordir a’r draethlin ac ynghyd â chynnydd a thrai’r llanw, gallent wneud eich gweithgaredd a/neu dilyn eich llwybr dewisol braidd yn anodd, ac o bosibl yn beryglus.
Gall gwneud penderfyniadau da yn seiliedig ar rai camau syml gadw’ch diwrnod ar y trywydd iawn.
Llanw
Mae amseroedd ac uchder y llanw yn amrywio trwy gydol y mis a gall hyn eich twyllo yn hawdd os nad ydych wedi eu gwirio. Mae’n bosibl y bydd traeth a oedd yn glir ddoe am 5yp fod wedi’i orchuddio’n llwyr â dŵr ar yr un pryd heddiw. Gall amseroedd y llanw amrywio’n sylweddol hefyd ar gyfer rhannau o’r arfordir sy’n weddol agos yn ddaearyddol.
Er bod y llanw yn gallu bod yn anwadal, mewn gwirionedd mae amserlen y llanw yn aml yn fwy dibynadwy nac amserlen y rhan fwyaf o drenau! Gallwch wirio amseroedd y llanw ar gyfer y lleoliad yr ydych yn bwriadu ymweld ag o drwy edrych ar y wefan hon, sy’n rhagorol www.tidetimes.org.uk
Treulio amser ar y traeth
Efallai bod y traeth yn ymddangos fel maes chwarae eang, ond gall y llanw ddod i mewn yn rhyfeddol o gyflym.
Wrth i’r llanw symud i fyny ac i lawr y traeth, mae dyfnder y dŵr yn newid trwy gydol y dydd, weithiau cymaint â 10 metr. Wrth i’r llanw ddod i mewn, y peth mwyaf diogel i’w wneud yw cerdded i fyny’r traeth hyd at y lle y daethoch i mewn i’r traeth. Os ydych yn ystyried cerdded o amgylch pentir neu frigiad o greigiau i gildraeth arall, gwnewch hynny wrth i’r llanw fynd allan, a sicrhewch eich bod yn ôl cyn i’r llanw ddod i mewn eto. Os nad ydych chi, ac nad oes gan y cildraeth yr ydych ynddo risiau neu fynediad ei hun, fe allech chi fod mewn trafferthion.
Felly dylech Fentro’nGall: Peidiwch â chael eich ynysu gan y llanw, cofiwch wirio amseroedd y llanw

Cerdded ar yr arfordir
Mae taith gerdded arfordirol yn ffordd fendigedig o dreulio’r diwrnod ond mae yna rai sefyllfaoedd sydd angen ychydig o ofal i sicrhau eich bod yn cael profiad pleserus a diogel.
Tir fferm agored/tir amaethyddol lle gall fod anifeiliaid fferm, ceffylau neu gnydau
Gall fod yn anodd rhagweld beth a wnaiff anifeiliaid fferm a cheffylau.
– Os oes da byw, symudwch yn gyflym ond yn dawel ac os yn bosibl, cerddwch o amgylch y fuches
– Ceisiwch beidio â dychryn gwartheg neu geffylau trwy weiddi neu wneud symudiadau sydyn, a pheidiwch â rhedeg
– O amgylch gwartheg, defaid a cheffylau, cadwch blant bach yn agos a chŵn o dan reolaeth effeithiol – gallant ddychryn yr anifeiliaid yn ddamweiniol
– Os bydd gwartheg yn mynd ar ôl eich ci, gollyngwch y tennyn, er mwyn i’r ddau ohonoch fod yn ddiogel
– Ceisiwch osgoi mynd rhwng gwartheg a’u lloi
– Peidiwch â chynhyrfu, bydd y rhan fwyaf o wartheg yn stopio cyn iddynt eich cyrraedd chi. Os ydynt yn eich dilyn, cerddwch yn eich blaen yn dawel
– Peidiwch â rhoi eich hun mewn perygl. Os ydych yn teimlo dan fygythiad gan anifeiliaid, symudwch i ymyl y cae ac os yn bosibl, chwiliwch am ffordd arall o gwmpas
– Os ydych chi’n agosáu at geffyl a marchog, rhowch wybod i’r marchog eich bod chi yno cyn i chi ddod yn agos, a gwnewch yn siŵr eich bod yn cerdded ddigon pell oddi wrthynt wrth fynd heibio
– Os yw’ch ci mewn trafferthion yn y môr, ffoniwch am help – peidiwch â mynd i mewn i’r dŵr ar ei ôl. Mewn argyfwng ffoniwch 999 – gofynnwch am Wylwyr y Glannau
