Cymru
Gwylio’r Tywydd
Cymru
Gwybodaeth ddefnyddiol
Mae gweithgareddau ar gyfer pob gallu yng Nghymru, ond cyn cychwyn allan mae’n bwysig:
a) bod yn onest gyda chi’ch hunan ynghylch eich gwybodaeth, ffitrwydd a gallu chi eich hunan a’ch cymdeithion, a
b) gwirio’r tywydd ac amodau dan draed diweddaraf
Ceisiwch
Mae
Eryri
Mae tirwedd Eryri’n unigryw. Mae’r naw cadwyn o fynyddoedd yn cyfrif am oddeutu 52% o’r Parc ac yn cynnwys sawl copa dros 3,000 troedfedd (915m). Yn ogystal ȃ harddwch a chyfaredd ei mynyddoedd uchel, mae yn Eryri amrywiaeth o dirweddau hyfryd yn cynnwys ceunentydd serth, rhaeadrau a dyffrynnoedd gwyrdd.
Yn y gaeaf mae Eryri yn lle hudolus i ymweld, ond gall yr ychydig lleiaf o eira neu rew ar y ddaear weddnewid y mynyddoedd. Edrychwch ar y rhagolygon tywdydd diweddaraf ar gyfer Eryri.
Mae Wardeiniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’n trydar diweddariadau ynghylch amodau’r tywydd ar fynyddoedd Eryri trwy @snowdonweather
Snowdon
- Crib Goch
One of the country’s most popular ridges; its sharp rock peak cannot be ascended without scrambling (in-between a steep walk and a rock climb which will require you to use your hands) while the famously exposed knife-edged ridge connecting it with Garnedd Ugain is an area where the unprepared can get into difficulties. The exposure to high winds can be fierce, it can be slippery underfoot and there is a danger of losing your way and veering off the path.
- Zigzags below Bwlch Glas on the Pyg/Miner’s Track
The fact that this area is traversed by a very popular path, and is generally straightforward in summer, is no guarantee that it’ll be a stroll in the park all year round. This steep slope can be treacherously icy in winter and may be banked up by steep compacted snow on which a slip could be serious. In certain snow conditions, it can become avalanche prone. Check the Snowdon Warden’s weather report (@snowdonweather) before setting off and only attempt this route if the conditions are within you and your companion capabilities.
- Steep ground above Pant y Lluwchfa and the intersection of the Pyg and Miners’ Tracks
Beware of losing the path in this area or you could end up getting into difficulty in this dangerous terrain….
- Top of Watkin Path
- Llanberis Path in winter
- Clogwyn
Ogwen
- North Ridge of Tryfan
- Top of Devil’s Kitchen
Cadair Idris
??????????????????
Wales Coast Path
Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr
Rydym am i chi fynd nôl adref gydag atgofion anhygoel. Rhan o swyn Bae Abertawe yw’r ffaith ei fod yn rhyfeddol o wyllt, felly mae’n bwysig eich bod yn cymryd gofal pan fyddwch yn mynd hwnt ac yma. Cymerwch amser i ddarllen ein cyngor am gymryd rhan mewn gweithgaredd, diogelwch ar y traeth, cyngor am yr RNLI, diogelwch gyda barbeciws a cherdded yn ddiogel, yna gallwch ymlacio gan wybod eich bod chi a’ch ffrindiau’n barod i gael amser gwych!
Ydych chi’n cymryd rhan mewn gweithgaredd ar y môr neu ar y tir?
- Beth bynnag y byddwch yn ei wneud a ble bynnag y byddwch yn ei wneud, sicrhewch fod yr amodau’n ddiogel a bod gennych y cyfarpar cywir. Os ydych yn newydd i’r gweithgaredd neu’n amhrofiadol, defnyddiwch weithredwr achrededig (lle y bo’n briodol, mae’r holl weithredwyr ar wefan swyddogol y cyrchfan www.croesobaeabertawe.com wedi cyflawni’r achrediad gweithgareddau priodol).
- Byddwch yn ofalus wrth gerdded: mae llawer o’n traethau a rhannau o’n harfordir yn gartref i fywyd morol fel pysgod bwyell sy’n gallu’ch pigo pan fyddwch yn sefyll arnynt, yn ogystal â rhannau caregog y gallwch dorri eich hun arnynt. Awgrymwn eich bod yn defnyddio esgidiau dŵr, yn enwedig gyda phobl iau a cheisiwch gadw llygad ar ble’r ydych yn troedio.
- Cadwch lygad ar y llanw, mae’n gallu troi yn gyflym iawn yma gan achosi ymchwydd llanw neu gerhyntau terfol; yn enwedig ym Mae y Tri Chlogwyn, Burry Holms, Moryd Llwchwr a Sarn Pen Pyrod. Gall Ganolfan Gwylio Arfordir Pen Pyrod, Rhosili eich helpu i gynllunio’ch taith gerdded yn ddiogel.
- Os ydych yn syrffio yn Llangynydd, cadwch lygad am longddrylliadau pan fo’r llanw’n isel. Byddwn hefyd yn argymell asesu’r amodau ac aros o fewn eich gallu. Dylech bob amser ddweud wrth rywun i ble rydych chi’n mynd a ni ddylech syrffio neu nofio ar eich pen eich hun. Nid oes unrhyw achubwyr bywyd yn y lleoliad hwn.
- Mae neidio oddi ar gerrig yn gallu bod yn beryglus iawn. Labelwyd y Pwll Glas ym Mae Broughton yn ‘beryglus’ gan yr RNLI oherwydd ei ddŵr dwfn, cerrynt cryf ac ewyn y don trwm. Cyngor yr RNLI yw peidio â neidio oddi ar gerrig o gwbl. Mae neidio oddi ar bob math o gerrig yn beryglus. Dylech chwilio am ddarparwyr arfordiro swyddogol yn yr ardal.
- Argymhellir y dylech gadw llygad ar eich plant ar bob adeg a nofio ar draeth sydd ag achubwr bywyd rhwng y baneri coch a melyn – gweler isod am ragor o wybodaeth am draethau sydd ag achubwyr bywyd yr RNLI.
- Os ydych chi’n gweld rhywun mewn trafferthion, peidiwch â cheisio mynd i mewn i’r dŵr, ffoniwch 999 a gofynnwch am wyliwr y glannau.
- A chofiwch eich eli haul!
Diogelwch Dŵr ar y Traeth
Dylech weld y peryglon! Gall y rhain gynnwys:
- tymereddau oer iawn
- cerrynt cudd
- dŵr sy’n llifo’n gyflym, gwyliwch rhag lociau a choredau
- dŵr dwfn; gall fod yn anodd amcangyfrif dyfnder y dŵr
- efallai y bydd sbwriel neu weddillion cudd o dan yr arwyneb a fydd yn gallu dal, rhwygo neu dorri
- gall fod yn anodd dianc; gall llethrau fod yn serth, yn llithrig a chwalu’n friwsion
- dim achubwyr bywyd, nid oes gan y rhan fwyaf o ddyfrffyrdd awyr agored achubwyr bywyd
- gallai llygredd dŵr eich gwneud yn sâl
Does dim unrhyw draethau ag achubwyr bywyd yn ystod misoedd y gaeaf, felly cymerwch ofal; bydd dyletswyddau’n ailddechrau ym mis Ebrill.
Cymerwch gip ar yr arweiniad defnyddiol a all achub bywydau a luniwyd gan yr RNLI a Gwylwyr y Glannau EF. Bydd yn eich helpu i ddeall baneri ac arwyddion y traeth, cerhyntau terfol a’r llanw, ac yn nodi peryglon megis defnyddio offer chwyddadwy yn y môr.
Arweiniad Diogelwch ar y Traeth yr RNLI
Arweiniad Diogelwch ar Draeth y Tri Chlogwyn yr RNLI
Arweiniad Diogelwch ar Draeth Caswell yr RNLI
Baneri Diogelwch Dŵr
Yn ystod tymor yr achubwr bywydau, cadwch lygad am y baneri canlynol ar y traeth a fydd yn dweud wrthych a yw’r dŵr yn ddiogel i nofio ynddo a ble i beidio â nofio:
- Baneri coch a melyn: Bydd achubwr bywyd yn patrolio’r ardal rhwng y ddwy faner hyn. Dyma’r ardaloedd diogel i nofio a chorff-fyrddio ynddynt. Nid ydym yn annog y defnydd o gyfarpar chwyddadwy oherwydd gall hyn fod yn beryglus.
- Baneri du a gwyn sgwarog: Bydd achubwyr bywyd yn patrolio’r ardal rhwng y ddwy faner hyn ond mae’r ardal ar gyfer crefft dŵr heb bŵer megis byrddau syrffio a chaiacau. Peidiwch byth â nofio na chorff-fyrddio yn yr ardaloedd hyn.
- Baneri coch: Mae’r baneri hyn yn dynodi perygl. PEIDIWCH â mynd i’r dŵr o dan unrhyw amgylchiadau os gwelwch faneri coch yn hedfan. Siaradwch â’r achubwyr bywyd sydd ar ddyletswydd i gael rhagor o wybodaeth.
- Hosan wynt oren: mae’r hosan hon yn nodi amodau gwynt alltraeth neu gryf. Peidiwch â defnyddio cyfarpar chwyddadwy pan fydd yr hosan wynt oren yn chwifio.
Am fwy o wybodaeth am achubwyr bywyd a phatrolau’r RNLI, ewch i wefan diogelwch ar y traeth yr RNLI.
Cerdded yn ddiogel ym Mae Abertawe
- Mae Llwybr Arfordir Gŵyr yn agos at ymyl y clogwyn mewn nifer o fannau. Er eich diogelwch eich hun – cadwch at y llwybr!
- Mae rhai mannau o Lwybr yr Arfordir yn destun llanwau uchel. Byddwch yn ofalus, mae’r llanw’n gallu newid yn gyflym iawn yma. Ar adegau eithafol, efallai bydd angen i chi aros nes bod y llanw’n mynd ar drai cyn parhau, neu efallai byddwch yn gallu defnyddio llwybr amgen. Peidiwch â cheisio nofio gan efallai y byddwch chi’n mynd i drafferthion.
- Mae rhai o’r llwybrau’n dilyn y ffordd am bellterau byr, ac yn aml does dim palmant ar gael. Cymerwch ofal wrth ddefnyddio’r adrannau hyn gan efallai na fydd y gyrwyr yn ymwybodol o’ch presenoldeb.
- Gwisgwch esgidiau a dillad addas bob tro ar gyfer yr amodau y byddech yn eu disgwyl ar gyfer yr adeg o’r flwyddyn.
- Os ydych chi mewn trafferth, ffoniwch 999 (112 ar ffôn symudol) a gofynnwch am wylwyr y glannau.
- Dilynwch y Côd Cefn Gwlad ar bob adeg: cadwch eich ci ar dennyn ger da byw. Gadewch glwydi fel yr oeddent pan ddaethoch ar eu traws, ac ewch â’ch sbwriel adref gyda chi.
Barbeciws ar y Traeth – Byddwch yn Ddiogel
Nid yw barbeciws tafladwy’n dda iawn ar gyfer yr amgylchedd, felly yn ddelfrydol dylech fuddsoddi mewn barbeciw bach, cludadwy ac ailddefnyddiadwy y gallwch ddod ag ef a mynd ag ef adref gyda chi – mae’n rhatach yn y pen draw hefyd!
Os ydych chi am ddefnyddio barbeciw tafladwy, gwnewch hynny’n gyfrifol:
- Sicrhewch fod eich barbeciw mewn lle diogel ar fan cadarn (nid ar y llawr gan fod y tywod yn mynd yn BOETH IAWN ac yn cadw’r gwres). Sicrhewch fod pawb yn yr ardal yn ymwybodol bod y barbeciw wedi’i gynnau ac yn BOETH.
- Pan fyddwch chi wedi gorffen, diffoddwch y barbeciw gyda dŵr oer a dylech gael gwared arno’n ddiogel mewn un o’r BINIAU BARBECIW coch a ddarperir ar hyd Promenâd Abertawe ac ar draethau’r cyngor, gan gynnwys Bae Rotherslade, Bae Langland, Bae Caswell, Porth Einon a Horton.
- Os nad oes bin ar gael, ewch â’r barbeciw adref â chi i gael gwared arno. Gwnewch yn siŵr ei fod WEDI’I DDIFFODD YN LLAWN ac yn OER cyn ei gyffwrdd a’i symud mewn cynhwysydd gwrth-dân, e.e. mewn bwced galfanedig.
- PEIDIWCH â chladdu’r barbeciw gan fod y glo A’R tywod cyfagos yn cadw eu gwres am oriau a gallant LOSGI traed neu blant sy’n chwarae yn y tywod YN DDIFRIFOL.
- PEIDIWCH â rhoi barbeciws mewn biniau sbwriel neu ailgylchu gan y gallai hyn achosi tân (hyd yn oed os ydych yn meddwl bod y glo’n oer).
- Rhowch weddill eich sbwriel yn y biniau sbwriel neu ailgylchu os ydynt ar gael er mwyn peidio â pheryglu eraill ar y traeth neu fywyd morol.
- Peidiwch â dod â photeli gwydr i’r traeth gan fod y rhain yn berygl difrifol, yn enwedig i blant sy’n chwarae yn y tywod.
- Sylwer NI CHANIATEIR cynnau tanau agored ar y traeth neu’r ardal gyfagos gan nad oes modd cael gwared arnynt yn ddiogel ac mae’r cerrig a’r tywod poeth yn gallu achosi llosgi difrifol.