1

Mentrwch yn Gall yn y Gaeaf

Mentrwch yn Gall yn y Gaeaf

 

Mae’r gaeaf yn dod â heriau ychwanegol i bob un ohonom, yn enwedig pan fo’r bryniau wedi’u gorchuddio ag eira, pan fo’r tywydd yn newid, pan fo tymheredd yr aer a’r dŵr yn gostwng yn sylweddol, pan fo’r gwyntoedd yn cynyddu’r teimlad o oerni a phan fo’r dyfrffyrdd (afonydd, llynnoedd, camlesi) yn dechrau rhewi. Mae padlo un o’n dyfrffyrdd niferus, archwilio’r arfordir neu fentro i’r bryniau a’r mynyddoedd yn y gaeaf yn cynnig profiad cwbl unigryw a gwerth chweil, ond cofiwch fod y dyddiau’n fyr a gall y tywydd newid yn gyflym….felly mae angen i chi gynllunio ar gyfer pob math o amodau.

Er mwyn gwneud eich diwrnod da yn hyd yn oed gwell yn y gaeaf, bydd angen OFFER, SGILIAU & GWYBODAETH ychwanegol arnoch a gwell dealltwriaeth o’r TYWYDD – y tu hwnt i’r hyn sydd ei angen yn ystod yr haf.

Yn y gaeaf, p’un a ydych yn mynd allan am dro gyda’r ci; yn mentro i’r bryniau i gerdded a / neu i ddringo; neu’n wynebu’r dyfroedd arfordirol neu fewndirol i nofio, padlo neu hwylio, gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn 3 chwestiwn i chi’ch hun cyn i chi gychwyn:

1. Oes gen i’r OFFER cywir?

Edrychwch ar ein ‘Rhestr o Offer Hanfodol’ i sicrhau bod gennych yr hyn sydd ei angen ar gyfer eich antur dewisol yn y gaeaf. Nid oes angen i’r  offer fod y math drutaf nac o’r radd flaenaf; does ond angen i chi bacio’r pethau iawn i sicrhau eich bod yn gallu mwynhau eich diwrnod beth bynnag fo’r tywydd.

Ar y tir

Beth i'w wisgo

  • Trowsus neu legins cynnes/gwrthwynt
  • Legins thermol/haen gyntaf
  • Top thermol/haen gyntaf
  • Fflîs/haen olaf sy’n inswleiddio
  • Esgidiau â gwadn gadarn gyda sanau priodol
  • Het gynnes a bwff
  • Menig
  • Sbectol haul – weithiau bydd yr haul yn tywynnu yn y gaeaf!
  • Trowsus gwrth-ddŵr a siaced ddiddos

Os ydych chi’n mentro y tu hwnt i’r iseldir bydd arnoch angen y canlynol hefyd;

  • Gogls – hanfodol ar gyfer llywio mewn tywydd gwael, p’un a ydych ar droed neu ar feic
  • Bwyell gerdded – a gwybodaeth am sut i’w defnyddio
  • Cramponau – gwnewch yn siŵr eu bod yn addas ar gyfer eich esgidiau ac yn eu ffitio, a bod gennych y sgiliau i’w defnyddio’n ddiogel

Beth ddylech ei gario

  • Sach deithio a lenin sach deithio – byddai hen fag rwbel yn iawn. Bydd eich stwff yn gwlychu heb un!
  • Haen(au) inswleiddio sbâr
  • Map a chwmpawd a gwybodaeth am sut i’w defnyddio
  • Tortsh ben – gwiriwch y batris a chariwch fatris sbâr os oes angen
  • Chwiban
  • Ffôn symudol wedi’i wefru’n llawn a banc pŵer – cariwch ef mewn poced siaced fewnol yn agos at eich corff i gadw’r ddyfais yn gynnes ac i gael mynediad hawdd ati; bydd hyn yn helpu i gadw bywyd y batri.
  • Bwyd egni uchel a diod poeth – mae’n bwysig yfed digon hyd yn oed pan mae hi’n oer.
  • Eli haul
  • Pecyn Cymorth Cyntaf (bach)

Os ydych chi’n mentro y tu hwnt i’r iseldir bydd arnoch angen y canlynol hefyd;

  • Ffyn cerdded (dewisol)
  • Lloches brys (mae polythen yn iawn) a lloches grŵp

Ar y dŵr

Beth i'w wisgo

  • ‘Cag’/siaced ddiddos drwchus – Mae ‘cags’ ychydig fel cotiau diddos / gwrth-ddŵr, ond fel arfer mae ganddynt seliau gwrth-ddŵr ar y gwddw, y corff a’r dwylo i atal dŵr rhag mynd i mewn
  • Siaced achub neu gymorth arnofio – un sy’n ffitio’n dda ac wedi’i gynnal a’i gadw’n dda
  • Trowsus gwrth-ddŵr
  • ‘Drysuit’ os ydych yn bwriadu aros ar y dŵr.. maent yn wych ar gyfer pob math o chwaraeon padlo a gweithgareddau hwylio.
  • Siwt wlyb ar gyfer y gaeaf – os ydych chi’n mynd i mewn i’r dŵr, maent yn dueddol o fod yn fwy trwchus gan ddarparu haen ynysu ychwanegol.
  • Dec chwistrellu – gwych ar gyfer cadw’r dŵr allan o’ch caiac.
  • Haen gyntaf thermol (legins a thop) – Mae haenau fflîs hefyd yn ynysyddion gwych.
  • Bydd esgidiau trwchus ar gyfer tywydd gwlyb y gaeaf neu esgidiau â gwadn gadarn gyda sanau neopren yn atal bysedd eich traed rhag mynd yn oer a chyffio.
  • Het wlan/gnu neu gap penglog neopren os ydych yn mentro i’r dŵr.
  • ‘Pogies’ a menig neopren. Pocedi ar gyfer eich dwylo yw ‘pogies’ yn y bôn, mae rhai pobl hefyd yn dewis menig neopren neu’n gwisgo menig oddi tano hefyd.
  • Sbectol haul – weithiau bydd yr haul yn tywynnu yn y gaeaf!

Os oes gennych eisoes yr offer hyn, gwnewch yn siŵr nad oes ganddynt dyllau a thrwsiwch unrhyw rwygiadau neu dyllau cyn i chi fynd allan ar y dŵr neu i mewn i’r dŵr.

Beth i’w gael yn barod amdanoch pan fyddwch yn dod oddi ar y dŵr neu allan o’r dŵr;

  • Côt gynnes neu wisg sych. Mae digon o wisgoedd sych a gellir eu rhoi amdanoch cyn gynted ag y byddwch yn dod oddi ar y dŵr/allan o’r dŵr.
  • Dillad sych. Ewch â set sbâr o ddillad rhag ofn i chi ddisgyn i mewn i’r dŵr yn annisgwyl!

Beth ddylech ei gario

  • Bag sych – bydd eich pethau’n gwlychu heb un!
  • Map a chwmpawd neu GPS – a gwybodaeth am sut i’w defnyddio
  • Ffôn symudol wedi’i wefru’n llwyr a banc pŵer – gwnewch yn siŵr eu bod mewn bag gwrth-ddŵr a’i bod hi’n hawdd cael mynediad atynt
  • Bwyd egni uchel a diod poeth – mae’n bwysig yfed digon hyd yn oed pan mae’n oer.
  • Lloches brys (mae polythen yn iawn) a lloches grŵp
  • Haen(au) inswleiddio sbâr
  • Tortsh ben – gwiriwch y batris a chariwch fatris sbâr os oes angen
  • Chwiban
  • Eli haul
  • Pecyn Cymorth Cyntaf (bach)

2. Ydw i’n gwybod sut fydd y TYWYDD?

Mae tywydd gaeafol yn hynod anrhagweladwy. Treuliwch amser i ddeall sut mae’r tywydd wedi bod dros y dyddiau diwethaf, beth mae’r tywydd yn ei wneud ar ddiwrnod eich antur a sut mae hynny’n effeithio ar y ddaear a’r amodau amgylcheddol.

Gall glaw trwm drwy’r hydref a’r gaeaf newid patrymau a lefelau afonydd yn ddramatig, felly mae bob amser yn werth edrych ar y llif a’r lefelau cyn mynd allan ar yr afon. Bydd gwyntoedd cryfion yn effeithio ar ymchwydd y môr ar hyd yr arfordir a’r draethlin ac maent yn gwneud amodau ar lynnoedd mewndirol yn anodd.

Ar dir, gall eira, glaw a chenllysg wneud amodau’r ddaear yn anodd. Mae amodau tir rhewllyd yn arbennig o beryglus; a gall fod angen cramponau; gwnewch yn siŵr eu bod wedi’u haddasu ar gyfer maint eich esgid a bod gennych chi’r wybodaeth a’r sgiliau i’w defnyddio. Os ydych chi’n beicio mynydd, ceisiwch osgoi llwybrau lle mae yna eira dwfn.

Gall gwyntoedd cryf effeithio ar eich gallu i wneud cynnydd ac ychwanegu at oerni’r gwynt; daw hyn yn fwy sylweddol po uchaf yr ewch. Cofiwch y byddwch chi’n blino’n gynt mewn tywydd gwlyb, pan fo gwyntoedd yn gryf a phan fo tymheredd yr aer yn oer – efallai y bydd angen i chi newid eich cynlluniau, cadw at lefelau is a / neu ddilyn llwybr byrrach.

Mae gan y Swyddfa Dywydd wefan benodol ar gyfer rhagolygon y tywydd yn y prif ardaloedd mynyddig. Cyhoeddir rhagolygon ddwywaith y dydd ac maent yn cynnwys oriau golau dydd. Gall y tywydd newid yn gyflym gydag amser ac, os ydych yn y bryniau / mynyddoedd, bydd hefyd yn amrywio yn ôl uchder. Edrychwch ar y rhagolygon i gael gwybod am y pwynt uchaf ar eich llwybr a’ch amser cychwyn a gorffen.

Mae rhai rhanbarthau yn darparu gwybodaeth leol gyfredol am yr amodau yn y bryniau a’r mynyddoedd:

Lake District Fell Top Assessors @lakesweather

Snowdon Ground Conditions @snowdonweather

Pam fo’ deall rhagolygon y tywydd yn arbennig o bwysig yn y bryniau a’r mynyddoedd?

  • Gall gwyntoedd mewn stormydd, glaw trwm parhaus neu stormydd eira fod yn wyllt ar y copa pan fo hi’n gymylog a dim ond yn awelog yn y dyffrynnoedd.
  • Gall amodau oerach ar uchder a gwyntoedd cryfion achosi oerfel gwynt difrifol, a gall arwain at hypothermia, yn enwedig os bydd dillad gwrth-ddŵr yn cael eu gwlychu mewn amodau gwlyb.
  • Mae rhew ac eira yn cael eu hachosi gan dymheredd oerach ar uchder. Gall eira barhau i fod ar y ddaear ymhell i mewn i’r gwanwyn neu’r haf, yn enwedig ar lethrau cysgodol sy’n wynebu’r gogledd.
  • Gall rhai amodau achosi eirlithriadau hefyd. Darperir rhagolygon eirlithriadau ar gyfer yr Alban gan Wasanaeth Gwybodaeth Eirlithriadau yr Alban.
  • Mae cymylau isel, a greir naill ai gan gymylau sy’n symud ar draws yr ardal neu gan y bryniau, yn arwain at welededd gwael iawn. Gall cymylau neu eira trwm ynghyd ag eira ar y ddaear achosi storm eira.

Os ydych chi’n mentro i’r dŵr neu arno, edrychwch ar y tywydd ar gyfer yr ardal y byddwch chi’n mynd iddi a pharhau i gadw golwg arno oherwydd bydd yr amodau hyn yn newid yn gyflym.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio ymlaen llaw ar gyfer eich antur yn y gaeaf;

  • Cynlluniwch ar gyfer oriau lle mae’r golau dydd yn fyrrach, bydd hi’n tywyllu’n gynt os yw’r awyr yn gymylog. Ewch allan mewn da bryd, ewch â fflachlamp efo chi, hyd yn oed os ydych chi’n bwriadu bod yn ôl ymhell cyn iddi dywyllu; gwiriwch eich batris cyn cychwyn a chariwch fatris sbâr.
  • Casglwch wybodaeth berthnasol am ble rydych chi’n bwriadu mynd ar y diwrnod a drefnwyd ac yna trwy gydol eich taith.
  • Edrychwch ar y tywydd a’r amodau tir diweddaraf cyn i chi gychwyn – cymerwch gyngor, ceisiwch fynd ar daith dim ond os yw’r amodau o fewn eich gallu chi a’ch cyd-deithwyr.
  • Os oes gennych unrhyw amheuaeth, newidiwch eich cynlluniau neu ewch gyda thywysydd cymwys.

Byddwch yn hyblyg – does dim cywilydd mewn newid eich cynlluniau. Dewiswch lwybr gwahanol neu trowch yn ôl os nad yw’r rhagolygon yn edrych yn addawol, os yw’r tywydd yn cau i mewn yn annisgwyl neu os yw’r amodau’n troi allan i fod yn anoddach na’r disgwyl.

3. Ydw i’n hyderus fod gen i’r WYBODAETH A’R SGILLIAU ar gyfer y diwrnod?

P’un a ydych chi’n newydd i fentro i’r awyr agored yn y gaeaf neu’n brofiadol, ble bynnag rydych chi’n mynd a beth bynnag rydych chi’n ei wneud, ystyriwch eich  SGILIAU A’CH GWYBODAETH a rhai eich cyd-deithwyr. Rhaid i’ch cynlluniau ystyried sgiliau a gwybodaeth y person lleiaf galluog/profiadol yn eich grŵp.

Mae llywio yn y gaeaf yn gam ymlaen ar yr hyn rydych chi’n ei wybod ac yn ei wneud yn barod os ydych chi’n mentro allan yn yr haf. O ganlyniad, bydd angen i chi fod yn llawer mwy manwl gywir gan fod llawer mwy o newidiadau i’w hystyried: gwelededd gwael, tir wedi rhewi, eira, risg eirlithriadau; bydd pob un o’r rhain yn gofyn bod gennych sgiliau estynedig a gwell dealltwriaeth. Beth bynnag fo’ch gweithgaredd dewisol, mae’n syniad da gwella eich sgiliau gyda hyfforddiant:

Hill walking/Mountaineering
Canŵio a chwaraeon padlo eraill, gan gynnwys rhwyf-fyrddio
Mountain biking
Hwylio, Hwylfyrddio a Chychod Pŵer
Rock climbing
Marchogaeth

Os ydych chi’n mynd am dro i’r bryniau ar droed neu ar feic mynydd ac yn sylweddoli bod cyrraedd y copa yn mynd i fod yn her, yna newidiwch i lefel is y gallwch chi i gyd ei mwynhau a’i chyflawni’n gyfforddus.

  • Os yw’r tywydd neu amodau’r tir y tu hwnt i’ch gallu neu’ch offer, ystyriwch eich opsiynau – mae’n iawn dewis llwybr mwy addas neu droi’n ôl.
  • Chwiliwch am lwybrau sydd wedi’u hyrwyddo a’u disgrifio’n dda sy’n addas i’ch gallu. Edrychwch ar wefannau Parciau Cenedlaethol ac AHNE am lwybrau cerdded ar gyfer pob gallu.

Byddwch yn realistig am faint o amser y byddwch chi allan. Gyda llai o oriau golau dydd a thymheredd oerach, mae angen i chi gynllunio teithiau byrrach a fydd yn llai beichus yn gorfforol, ac felly, yn gyraeddadwy i bawb.

  • Byddwch yn onest â chi’ch hun am eich gwybodaeth, ffitrwydd a’ch gallu, ynghyd â’r rhai sy’n eich cwmni.

Os ydych chi’n nofio neu’n padlo, gall y sgiliau technegol sydd eu hangen i fynd i’r afael â dyfroedd mewndirol gynyddu’n aruthrol ar ôl glaw, a gall lefelau dŵr godi a gostwng yn gyflym.

  • Byddwch yn realistig am eich sgiliau a rhai eich grŵp – peidiwch â chymryd siawns.

Os byddwch yn disgyn i mewn i’r dŵr naill ai’n fwriadol neu’n anfwriadol, cofiwch ‘Arnofiwch i Fyw’ – mae sioc dŵr oer yn mynd heibio mewn llai na 2 funud, felly ymlaciwch ac arnofiwch ar eich cefn nes y gallwch reoli eich anadlu.

Mae cymorth cyntaf yn achub bywydau a gall gwybod beth i’w wneud mewn argyfwng wneud byd o wahaniaeth.

Gadewch i’r arbenigwyr ddangos y ffordd i chi.

  • Os ydych chi’n gwneud rhywbeth newydd, yn mynd i rywle newydd neu’n mentro i diroedd neu amodau newydd, beth am fynd gyda thywysydd / hyfforddwr cymwys.

Beth i’w wneud mewn argyfwng?

Mae damweiniau’n digwydd – gall hyd yn oed y rhai sydd wedi paratoi’n dda gael anhawster. Mae gwybod beth i’w wneud mewn argyfwng yn hanfodol, treuliwch amser yn asesu’r sefyllfa a phenderfynu beth i’w wneud:

  • Peidiwch â chynhyrfu ac arhoswch hefo’ch gilydd.
  • Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw un yn eich grŵp mewn perygl uniongyrchol, efallai y bydd angen i chi symud oddi wrth y perygl.
  • Os caiff unrhyw un ei frifo / anafu, efallai y bydd angen i chi eu trin. Chwiliwch am arwyddion o fywyd (gwiriwch nad oes dim byd yn rhwystro’r anadl trwy’r geg na’r trwyn/gwiriwch yr anadl yn gyffredinol/cylchrediad) neu a gollwyd gwaed. Lawrlwythwch ap cyngor cymorth cyntaf St John Ambulance (nid oes angen y rhyngrwyd i ddefnyddio’r ap: mae’r holl wybodaeth ar gael ar yr ap).
  • Rhowch haen inswleiddio rhwng y person sydd wedi ei anafu a’r ddaear, ychwanegwch ddillad ychwanegol ac os yw’n anymwybodol, gosodwch y yr unigolyn yn yr ystum adfer arferol.
  • Nodwch ble rydych chi ar eich map ac ystyriwch eich opsiynau:
    • Symud i rywle diogel – Beth fydd yr amodau? Pa mor bell sydd angen i chi fynd i gyrraedd lle diogel? Ydych chi’n gallu cario’r person sydd wedi ei anafu? A fydd anafiadau’r person yn cael eu gwaethygu wrth ei symud?
    • Dod o hyd i loches – Peidiwch â defnyddio amser ac egni gwerthfawr oni bai eich bod yn sicr y byddwch yn dod o hyd i loches. Defnyddiwch eich lloches grŵp.
    • Arhoswch lle’r ydych chi – A fydd eich sefyllfa’n cael ei datrys os arhoswch lle’r ydych chi?
    • Dod o hyd i help – Cofiwch hyd yn oed pan fydd y gwasanaethau brys wedi cael eu galw efallai y byddant yn cymryd sawl awr i’ch cyrraedd.

Ffoniwch 999 neu 112 a gofynnwch am yr Heddlu a’r Tîm Achub Mynydd os ydych chi yn y mynyddoedd neu’r bryniau, neu Gwylwyr y Glannau os ydych chi ar yr arfordir neu ar y môr. Arbedwch fywyd batri eich ffôn symudol trwy gael yr holl fanylion wrth law cyn ffonio am help.

Bydd angen i chi roi’r manylion canlynol iddynt;

  • eich lleoliad (cyfeirnod grid os yn bosibl)
  • enw, rhyw ac oedran y person wedi’i anafu
  • natur yr anafiadau neu argyfwng
  • nifer y bobl sy’n bresennol
  • eich rhif ffôn symudol

Gall Timau Chwilio ac Achub anfon neges destun gan ddefnyddio SARLOC neu Phone Find i helpu i ddod o hyd i’ch lleoliad. Gwiriwch pwy yn eich plith sydd â ffôn symudol (a signal) ac edrychwch faint o fywyd y batri sydd ar gael os bydd angen gwneud galwadau ychwanegol. Arbedwch fywyd y batri trwy gau apiau eraill a chadw eich ffôn mewn poced siaced fewnol.

Os nad oes signal ffôn symudol yn eich lleoliad chi, ystyriwch a allai fod yn werth symud i leoliad arall i wneud galwadau ffôn.

Mae ap SafeTrx y Gymdeithas Hwylio Frenhinol yn monitro eich teithiau cwch a gall rybuddio cysylltiadau brys a Gwylwyr y Glannau EM os na fyddwch yn cyrraedd mewn pryd.

Os bydd pob math arall o gyfathrebu yn methu, y signalau brys a gydnabyddir yn rhyngwladol yw chwe chwythiad ar y chwiban neu chwe fflach tortsh, ac ail seinio’r galw hwn am gymorth bob munud.