1

AR GWCH

Mentro’nGall: Wrth fynd ar gwch

Mae angen i chi, eich cwch a’ch criw fod â chyfarpar / offer priodol er mwyn gallu mwynhau a chael profiad pleserus ar y dŵr. Mae’r offer y bydd ei angen arnoch yn amrywio ar gyfer cychod dydd a chychod gyda chyfleusterau bwyta a chysgu, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi’n mynd ar y gwch a phryd. Mae’n hanfodol eich bod yn ystyried o ddifri pa offer sydd ei angen arnoch a’ch bod yn gwybod sut i’w ddefnyddio.

Dylech gael cynllun: Byddwch yn barod bob amser; meddyliwch ‘beth os?’ a pheidiwch â difetha diwrnod allan da ar y dŵr oherwydd diffyg cynllunio. Mae angen rhyw elfen o gynllunio ar gyfer hyd yn oed y teithiau symlaf a byrraf. Mae cynllunio taith yn rhwymedigaeth ar bob morwr o dan y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiogelwch Bywyd ar y Môr. Fodd bynnag, nid oes angen i gynllun taith fod yn gymhleth. Bydd y math o gwch sydd gennych a’r daith yr ydych yn bwriadu ei gwneud yn pennu faint o gynllunio sydd angen i chi ei wneud. Gadewch i rywun arall wybod eich cynllun bob amser.

Mentro’n Gall: Gwnewch yn siŵr bod gennych chi a’ch cwch y cyfarpar priodol cyn mynd ar y dŵr.

DILLAD

Siaced achub neu gymorth arnofio (rhaid iddo fod yn ffitio’n dda ac wedi’i gynnal a’i gadw’n dda).

Cordyn Lladd (os ydych ar gwch pŵer agored neu RIB gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo’r llinyn lladd. Os nad oes un ar eich cwch, yna gosodwch un. Dylid cysylltu’r llinyn lladd o amgylch eich coes. Gwiriwch bob amser bod eich llinyn lladd yn gweithio cyn i chi fynd allan ar y dŵr. Cariwch linyn lladd sbâr bob amser).

Siaced a thros drowsus gwrth-ddŵr (po fwyaf tebygol y byddwch o wlychu, y mwyaf technegol y daw eich gofynion dillad er mwyn eich cadw’n gynnes ac yn sych).

Haen ganol sy’n inswleiddio (cnu, siacedi cragen meddal, siacedi plu, yn dibynnu ar y tywydd; unwaith y byddwch chi’n dechrau oeri, bydd eich gallu i feddwl a gweithredu’n iawn yn dirywio).

Haen gwrth-wynt (ar y môr efallai y bydd angen haen gwrth-wynt i gadw’n gynnes hyd yn oed ar ddiwrnod heulog cynnes).

Haen sylfaen sy’n gallu ‘anadlu’ (chwiliwch am ddeunyddiau technegol, osgowch grysau-t cotwm).

Het haul ac eli haul

Oriawr (neu unrhyw ddull dibynadwy i chi wybod faint o’r gloch ydi hi)

ESGIDIAU

Esgidiau cwch priodol (sy’n caniatáu ichi symud o gwmpas heb lithro)

HANFODION AR GWCH

Pecyn cymorth cyntaf

Sbectol haul

Dŵr potel a byrbrydau

Unrhyw feddyginiaeth angenrheidiol (a rhai sbâr)

Dulliau cyfathrebu (defnyddir VHF yn gyffredin o gwch i gwch / long i long, o long i’r lan a chyfathrebu brys yn yr amgylchedd morol. Mae ffôn symudol wedi’i wefru a gwefrydd cludadwy mewn bag sych wedi’i selio a gedwir ar eich person yn syniad da).

Cordyn lladd (os ydych ar gwch pŵer agored neu RIB ac nad oes un wedi’i osod ar eich cwch, yna gosodwch un. Cariwch linyn lladd sbâr bob amser).

Diffoddwr tân ac offer diogelwch (rhannwch eich cynllun argyfwng gyda’ch grŵp sy’n cynnwys ble cedwir eich offer diogelwch a sut i’w ddefnyddio, pwy ddylai gymryd drosodd os ydych chi’n cael eich anafu neu’n mynd yn sâl, sut i gychwyn yr injan, sut i anfon Neges Argyfwng (Mayday) a sicrhewch eu bod yn ymwybodol o unrhyw beryglon ar y cwch / llong).

Radio Tywys sy’n Nodi Eich Lleoliad Mewn Argyfwng a / neu Dywysydd Lleoli Personol (sicrhewch eich fod wedi’i gofrestru, gall gyflymu’r broses achub a hyd yn oed achub eich bywyd)

Synhwyrydd Carbon Monocsid (os nad oes gennych larwm CM, gosodwch un a phrofwch ef yn rheolaidd. Cofiwch #GetWiseGetAlarmedGetOut).

Mae Ap RYA SafeTrx (Mae’n monitro eich teithiau cwch ac yn rhybuddio eich cysylltiadau  brys pe na baech yn cyrraedd ar amser. Mae’n ap rhad ac am ddim ar gyfer ffonau smart Android ac Apple iOS sy’n eich galluogi i olrhain eich taith (yn nyfroedd tiriogaethol y DU) ar eich ffôn. Mae RYA SafeTrx yn darparu dull hygyrch a syml i’w ddefnyddio i bob defnyddiwr cychod hamdden a all hysbysu Gwylwyr y Glannau EM am eu cynlluniau taith a’u lleoliad deinamig mewn argyfwng.

Goleuadau mordwyo (dylech sicrhau, yn ystod yr oriau tywyll, eich bod yn dangos y goleuadau llywio cywir ar gyfer math a maint eich cwch / llong, yn ogystal â chynnal gwyliadwriaeth briodol am longau a pheryglon eraill. Nid yw goleuadau LED yn defnyddio llawer o bŵer felly nid yw’n anodd sicrhau eu bod yn ddigon llachar i’w gweld. Mae’r Rheoliadau Rhyngwladol ar gyfer Atal Gwrthdrawiadau ar y Môr yn nodi beth yw’r arddangosiad goleuadau a ddeellir yn rhyngwladol y dylid cydymffurfio â hwy o’r machlud hyd at godiad yr haul).

Siartiau cyfoes (edrychwch ar y siartiau a’r llyfrau peilot cyfredol, hysbysiadau i forwyr, almanacau neu arweinlyfrau afonydd am unrhyw beryglon mordwyo megis heigiau, gorlifau, coredau, gwifrau uwchben a bwiau. Byddwch yn ymwybodol bod siartiau a chyhoeddiadau ffug yn cael eu mewn cylchrediad ac yn achosi perygl i ddiogelwch llong).