1

CERDDED BRYNIAU

Mentra’n Gall: wrth gerdded

Felly rydych chi’n cynllunio diwrnod allan hyfryd yn cerdded. Roeddech chi’n dychmygu llond bol o awyr iach, y teimlad da hwnnw sy’n dod o wneud ymarfer corff a golygfeydd gwefreiddiol o gefn gwlad Prydain. Rydych chi’n cychwyn yn yr heulwen ond dwy awr yn ddiweddarach mae’r nefoedd yn agor, a ydych chi a) yn estyn i mewn i’ch bag i afael yn eich dillad glaw wrth i’r cymylau glaw gasglu a pharhau i fod yn gynnes ac yn sych neu b) yn sylweddoli nad oes gennych chi’r cit cywir ac yn parhau ar eich taith yn wlyb ac oer ac yn teimlo’n druenus?

Mentra’n Gall: Cynlluniwch ar gyfer diwrnod gwych gyda’n canllaw offer / cit hanfodol i gael diwrnod da allan yn cerdded!

 

Dillad
  • Siaced gwrth-ddŵr (i’w chadw bob amser yn eich sach deithio nes bod ei hangen, peidiwch â gadael cartref hebddi)

  • Haen ganol inswleiddio (cnu, siacedi cragen feddal, siacedi plu, yn dibynnu ar y tywydd)

  • Haen sylfaen anadlu (osgowch grysau-t cotwm)

  • Trowsus cerdded (osgoi denim)

  • Trowsus diddos i’w wisgo dros eich trowsus (opsiwn gwych mewn cawod)

  • Hetiau a menig
  • Oriawr (neu unrhyw ddull dibynadwy o ddweud faint o’r gloch ydi hi)

  • Sach deithio/pecyn dydd (sy’n ffitio’n dda, wedi’i addasu’n gywir ac yn gyfforddus)

  • Het haul
Esgidiau
  • Bwts /esgidiau cerdded. Angen i rhain fod yn gyfforddus ac yn ffitio’n dda (dewiswch nhw’n seiliedig ar eich steil o gerdded a’r tir rydych chi am ei gerdded)

  • Sanau cerdded anadlu (mae gwlân merino yn ddelfrydol, osgowch gotwm os yn bosibl)

 

Hanfodion sach deithio
  • Pecyn cymorth cyntaf
  • Ffôn symudol (wedi’i wefru’n llawn) a gwefrydd cludadwy mewn bag sych (mae bag rhewgell ziplock yn opsiwn rhad)

  • Chwiban argyfwng

  • Map a chwmpawd (hyd yn oed os ydych yn defnyddio GPS)

  • Tortsh neu fflachlamp pen

  • Eli haul
  • Sbectol haul (gall eira fod yn llachar, felly mae’n werth eu cael wrth law yn y gaeaf hefyd)
  • Eli blister
  • Careiau sbâr

  • Dŵr potel (dylech yfed digon)

  • Fflasg o ddiod poeth

  • Byrbrydau egni uchel (i roi hwb egni pan fyddwch wedi blino)

  • Unrhyw feddyginiaeth angenrheidiol (a rhai sbâr)

  • Dillad cynnes sbâr

  • Sanau sbâr
  • Bag goroesi (rhag ofn)
  • Manylion cyswllt mewn argyfwng