1

CROESO I’R OCHR DYWYLL

CROESO I’R OCHR DYWYLL

Does dim rhaid i chi anelu’n syth am adra wrth i’r cysgodion ymestyn; mae cerdded gyda’r nos yn agor y drws i fyd cwbl newydd. P’un a oeddech wedi bwriadu bod allan ar ôl iddi dywyllu ai peidio, mae paratoi yn talu ar ei ganfed.

Dyma ein cyngor ar sut i fwynhau’r tywyllwch yn ddiogel.

Cynlluniwch eich Taith

  • Dewiswch lwybr rydych wedi’i gerdded o’r blaen yng ngolau dydd cyn mentro’n y tywyllwch
  • Dewiswch dywydd clir wedi’i setlo – does dim cywilydd bod yn gerddwr nos sy’n dewis mynd mewn tywydd teg; gwiriwch ragolygon y noson cyn cychwyn.
  • Cadwch lygad ar yr awyr; bydd lleuad llawn neu awyr serennog yn cyfoethogi’r profiad ac yn eich galluogi i lywio’ch llwybr yn haws. Mae Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll yn hygyrch i bawb ac yn cynnig golygfeydd gwych ar gyfer sêr-syllu.
  • Ewch gyda chwmni. Bydd hyn yn fwy diogel ac yn llawer mwy o hwyl. Os byddwch yn mynd ar eich pen eich hun, dywedwch wrth rywun beth yw’ch cynllun a pryd rydych yn bwriadu dod yn ôl.
  • Byddwch yn feddylgar a chofio fod posibilrwydd i chi ddychryn / achosi braw i drigolion lleol wrth gerdded yn y nos. Efallai y byddai llwybr lle nad ydych yn mynd yn agos at dai neu ffermydd yn well.

Meddwl am Offer

Byddwch angen yr un offer ar gyfer cerdded gyda’r nos ag y byddech yn ystod y dydd, ond mae rhai eitemau yn arbennig o bwysig.

  • 2 fflachlamp a batris sbâr; Fflachlampau LED yw’r rhai mwyaf dibynadwy a bydd golau addasadwy’n ddefnyddiol
  • Hyd yn oed yn ystod misoedd cynhesaf yr haf, gall fod yn agos at rewi yn ystod oriau mân y bore. Sicrhewch eich bod yn cario digon o haenau, sanau sych ychwanegol, menig a chot gnu.
  • Map a chwmpawd (dylech wybod sut i’w defnyddio yn y nos hefyd)
  • Bag cysgu a lloches ‘bivi’ – rhag ofn!
  • Ffôn symudol wedi’i egnio a banc pŵer

Bod yn ymwybodol o’ch cyfyngiadau

  • Cadwch at lwybr yr ydych wedi’i ddilyn o’r blaen  yng ngolau dydd, bydd yn edrych ac yn teimlo’n wahanol, ond mae gennych y sicrwydd o fod ar dir cyfarwydd. Dilynwch lwybrau amlwg.
  • Heb unrhyw gliwiau gweledol y tu hwnt i olau eich tortsh pen, efallai y byddwch yn goramcangyfrif neu’n tanamcangyfrif pa mor bell rydych chi wedi teithio dros amser penodol. Byddwch yn ymwybodol o hyn ac ymddiried yn eich technegau llywio.
  • Bwytewch ychydig ac yn aml; bydd digon o fyrbrydau yn eich cadw i fynd.
  • Mae’n iawn troi yn ôl os ydych chi’n teimlo’n ofnus neu’n blino.

DATBLYGU EICH SGILIAU

  • Gall llywio yn y nos fod yn her o ddifri, felly gwnewch eich gwaith cartref cyn cychwyn.  Ewch gyda thywysydd neu ewch ar gwrs llywio nos os ydych yn ansicr.
  • Mae’n anoddach gweld tir anwastad yn y tywyllwch.  Cerddwch gyda’ch llygaid, gan nodi’r ddaear 15 troedfedd o’ch blaen i weld y peryglon o’ch blaen.

  • Gall golau tortsh/fflachlamp fod yn or-ddisglair mewn niwl, glaw neu eira ac mewn rhai goleuadau fel tortsh pen, gall manylion y ddaear gael eu colli gan wneud baglu yn fwy tebygol.  Cadwch pelydr eich tortsh yn isel neu daliwch y dortsh yn eich llaw.

BE ADVENTURESMART

Meddwl am Offer

Nid oes rhaid i chi fod ȃ’r siaced ddrytaf a’r gorau ar y farchnad er mwyn mentro’ngall. Y gamp yw rhoi ychydigo ystyriaeth i’r amodau all fodo’ch blaen a phacio bag gydadigon er mwyn sicrhau eichbod yn gallu ymdopi ȃ beth bynnag ddaw.

Gwylio'r Tywydd

Rydym yn enwog yn y DU am ein hobsesiwn gyda’r tywydd, ac felly mae’n eithafrhyfeddol nad ydi pobl gan amlaf yn talu digon o sylw isut y gall effeithio ar antur y diwrnod.
Waeth beth yw eichgweithgaredd gall bod ynbarod am y tywydd wneudcymaint o wahaniaeth i sutfyddwch chi’n teimlo ar ddiwedd y dydd.

Datblygu eich sgiliau

Beth bynnag fo gweithgareddy diwrnod, byddwch yn onest gyda’ch hunan ynghylch eichgwybodaeth, ffitrwydd a gallu chi eich hunan a’chcymdeithion.

Rydym i gyd ynhoffi meddwl ein bod yn fwyffit neu’n fwy medrus nag yr ydym, ond yn yr achos ymamae’n werth bod yn onest.

Gwybod sut a phryd i alw am gymorth

Gall damweiniau ddigwydd iunrhyw un waeth pa mor gall ydych, felly beth bynnag fo’chgweithgaredd, gwnewch ynsiŵr bod gennych ffordd o alw am gymorth os byddwchangen gwneud hynny.