PADLFYRDDIO
Mentro’nGall: Wrth padlfyrddio
Mae’r penwsos wedi cyrraedd ac rydych chi’n cynllunio diwrnod ar y dŵr yn padlo’ch SUP. Rydych chi’n dychmygu dŵr gwastad, tawel, disglair a’ch bwrdd yn symud yn braf ar hyd yr wyneb, y teimlad gwych a gewch wrth wneud ymarfer corff a golygfeydd gwefreiddiol o arfordir Prydain, llynnoedd neu afon efallai. Rydych chi’n lansio’ch bwrdd yn yr heulwen a does dim gwynt ond dwy awr yn ddiweddarach mae awel gref yn ymddangos a diferion o law. Rydych chi’n edrych draw tuag at y traeth ac yn sylweddoli bod gennych ddiwrnod oer, llaith o’ch blaen.
Mentrwch yn gall a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwbl barod ar gyfer eich taith ar eich SUP. P’un a ydych yn newydd i weithgareddau SUP neu’n adnewyddu eich gwybodaeth, bydd ein fideo SUP, a gefnogir gan British Canoeing yn eich helpu i ddeall y pethau sylfaenol i gadw’n ddiogel. Os yw hynny wedi eich ysbrydoli i ddysgu mwy am sut i fod yn barod ac yn hunangynhaliol cyn mynd allan, edrychwch ar Go Paddling.
Edrychwch ar y gyfres o fideos byr, addas i’r pwrpas gan Lysgennad y WSA a’r amgylcheddwr, Cal Major a gwrandewch ar ei deg awgrym gorau hi ar gyfer SUPio mwy diogel ar wahanol ddyfrffyrdd ac mewn amodau cyfnewidiol.
Mentra’n Gall: Cynlluniwch i gael ddiwrnod gwych gyda’n canllaw cit hanfodol pan fyddwch allan ar eich SUP!
YR HANFODION
- Tennyn (ynghlwm i’r bwrdd yn y ffordd gywir, – edrychwch ar y canllaw i ‘SUP Leashes’ isod)
- Bwrdd (addas ar gyfer y gweithgaredd a chi, cyfaint, hyd a lled)
- Padlo (y maint iawn i chi)
- Rhagolygon y tywydd
Gwnewch yn siŵr bod gennych y dennyn iawn ar gyfer eich gweithgaredd gyda chymorth y ffeithlun hwn gan British Canoeing.
DILLAD
- Cymorth hynofedd (cymorth hynofedd sy’n ffitio’n dda gyda chwiban argyfwng)
- Siaced gwrth-wynt (i’w chadw bob amser yn eich sach deithio nes bod ei hangen, peidiwch â’i anghofio adref)
- Haen insiwleiddio (cnu neu gillet tenau yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn)
- Haen sylfaen anadlu os ydych chi’n padlo yn yr haf (osgowch grysau-t cotwm)
- Siwt wlyb (yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn gall siwt wlyb ‘long johns’ hir neu siwt lawn fod yn wych)
- Bag diogelwch / bag sych (gyda dull o’i glymu i’r dec)
- Pethau addas am eich traed (sandalau, treinyrs, esgidiau dŵr, unrhyw beth sy’n eich helpu i gerdded ar draws llefydd garw, traethau)
- Oriawr (neu unrhyw ddull dibynadwy o wybod faint o’r gloch ydi hi)
HANFODION SACH DDIOGELWCH (BAG SYCH)
- Pecyn cymorth cyntaf
- Ffôn symudol wedi’i wefru mewn bag sych (mae bag rhewgell ziplock yn opsiwn rhad)
- Map a chwmpawd (hyd yn oed os ydych yn defnyddio GPS)
- Tortsh neu fflachlamp pen
- Eli haul
- Sbectol haul
- Dŵr potel (sicrhewch eich bod yn yfed digon o ddŵr bob amser)
- Fflasg o ddiod boeth (yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn)
- Byrbrydau egni uchel (i roi hwb o egni i chi pan fyddwch wedi blino)
- Unrhyw feddyginiaeth angenrheidiol (a rhai sbâr)
- Dillad cynnes sbâr
- Bag goroesi (rhag ofn)
- Manylion cyswllt mewn argyfwng