Defnyddio negeseuon Mentro’n Gall yn eich deunyddiau

Mae sawl ffordd y gallwch chi ymgorffori negeseuon Mentro’nGall i’r wybodaeth yr ydych chi eisoes yn ei ddarparu i’ch cwsmeriaid. Trwy ychwanegu’r negeseuon hyn gallwch helpu eich cwsmeriaid i gael amser gwell fyth yn yr awyr agored, gan sicrhau profiadau bythgofiadwy a straeon i’w hadrodd.

Rydym wedi rhoi casgliad bychan at ei gilydd er mwyn eich rhoi ar ben ffordd!

1. Defnyddiwch negeseuon Mentro’nGall ar eich cyfryngau cymdeithasol

Fyddwch chi’n pendroni dros eich neges cyfryngau cymdeithasol am y diwrnod? Efallai y bydd ein negeseuon allweddol o gymorth i chi.

Er enghraifft, nid yw’n cymryd llawer i ni droi i siarad am y tywydd! Os yw’r tywydd ar gyfer y penwythnos yn edrych yn addawol ac mae gennych gynnig arbennig am y penwythnos, yna fe allwch drydar:

Wedi gweld y tywydd? Paciwch eich eli haul a’ch esgidiau cerdded ac anelu am y bryniau y penwythnos hwn! Rydym yn cynnig croeso cynnes a chefn gwlad godidog y nein cynnig munud olaf! #mentrongall #bethsyddyndyfag www.anyb&bintheUK.com

Neu

Ydych chi awydd crwydro ein harfordir bendigedig o’r môr – yna mae caiacio môr i ti! Arhoswch gyda ni’r penwythnos hwn a gadewch i’r arbenigwyr @unrhywfusnesawyragored ddangos i chi sut #Mentro’nGall

Rydym wedi cyfansoddi cyfres o negeseuon i chi eu defnyddio, felly waeth beth yw eich dewis o blatfform cyfryngau cymdeithasol – Twitter, Instagram, Facebook neu Snapchat – cymerwch olwg ac ewch ati i bostio!

Peidiwch ag anghofio defnyddio ein hashnod pan fo’n briodol

#Mentro’nGall

2. Ychwanegwch negeseuon Mentro’nGall i’ch gwefan

Os ydych yn sôn am weithgareddau awyr agored ar eich gwefan, neu os byddwch yn ysgrifennu blog am bethau i’w gwneud pan fyddwch yn ymweld ȃ’ch rhan chi o’r DU yna peidiwch ag anghofio cynnwys rhai negeseuon Mentro’nGall. Er enghraifft, os ydych yn sôn am y cyfleoedd cerdded yn eich ardal, yna fe allech chi ychwanegu:

Mentra’n Gall: Cynllunio am ddiwrnod da

Cynnal eich lefelau egni

Cariwch fwyd a diod

Os bydd yr haul yn tywynnu ar eich antur…

Rhowch eli haul a gwisgwch het haul

Gwnewch yn siŵr bod gennych fatri yn eich ffôn...

ond peidiwch ȃ dibynu arno i gyfathrebu a llywio eich llwybru!

3. Defnyddio negeseuon Mentro’nGall pan fydd eich cwsmeriaid wrthi’n cynllunio

Rydym eisiau i ymwelwyr ddod ar draws ein negeseuon Mentro’nGall drosodd a throsodd wrth ymchwilio, cynllunio ac archebu eu gwyliau. Fel busnes rydych chi’n chwarae rhan hanfodol yn hyn.

Fe allwch chi ychwanegu neges allweddol ar wefan eich sefydliad neu mewn e-bost cadarnhau, fel:

Gadewch i arbenigwyr ddangos y ffordd

Os ydych chi’n gwneud rhywbeth newydd neu’n mynd i rywle newydd, pam na ewch chi gyda thywysydd/hyfforddwr cymwys neu gofrestru am hyfforddiant (www.visitwales.com/activity-search/)

Neu os ydych yn cynnig cyfleusterau i feicwyr  mynydd fel storio beic yna fe allwch ychwanegu’r canlynol;

Yr offer priodol yn syniad rhagorol

Gall codwm ddifetha eich diwrnodond gall helmed dda a dillad amddiffynnol wneud eich diwrnod

Neu fe allwch chi ychwanegu dolen at eich awgrymiadau ar gyfer cit craidd ac eitemau ychwanegol opsiynol er mwyn eich cadw’n ddiogel a chyfforddus yn eich adran ‘Pethau i’w gwneud yn yr ardal’.

Cerdded mynydd
Beicio mynydd
Padlfyrddio

 

4. Rhannu negeseuon wrth gyrraedd

Gellir ailadrodd negeseuon wrth gyrraedd, wrth gofrestru, neu mewn llyfryn gwybodaeth leol mewn bwthyn, neu ar fwydlen brecwast mewn caffi lleol fel nodyn atgoffa munud olaf cyn mynd allan am y diwrnod.

Gallwch ychwanegu:

Cynllunio am ddiwrnod da

Cadwch mewn cysylltiadgwnewch yn siŵr eich bod yn cario ffordd briodol o alw am help os byddwch angen gwneud.

5. Argraffu posteri ar gyfer eich llety, atyniad neu allfa fwyd

Rydym wedi creu’r posteri hyn [link] i chi eu hargraffu a’u harddangos yn eich busnes, ychwanegu at eich gwefan neu roi ar eich cyfryngau cymdeithasol. Maent yn cynnwys lluniau arbennig er mwyn ysbrydoli pobl i fynd allan i’r awyr agored, gyda negeseuon cynnil er mwyn ceisio gwneud yn siŵr eu bod yn cael diwrnod pleserus a diogel.

Canllawiau Brand

Mae’r ddogfen PDF Canllawiau Brand Mentro’nGall yn cynnwys gwybodaeth ynghylch sut y dylid defnyddio’r logo ac yn cynnwys arlunwaieth vector parod i’w argraffu. Os ydych angen graffeg ar gyfer gwefannau yna defnyddiwch ein baneri gwe.

image_pdfimage_print